Fe enillon nhw! Masgot Rhino Coleg y Cymoedd yn Arwain Twrnamaint Pêl-droed Affricanaidd i Wobr Chwaraeon Gwyrdd y BBC

Mae cynghrair pêl-droed amatur Affrica, Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino, wedi cael ei henwebu ar gyfer Sefydliad Llawr Gwlad y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Gwyrdd y BBC, 2023.
Yn ymuno yn y dathliadau mae adran Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd, a ddatblygodd masgot rhino’r Gynghrair, ‘Davey’, i addysgu a diddanu miloedd o blant yn ystod tymor 2022.

Yn ei Gwobrau Chwaraeon Gwyrdd, mae Chwaraeon y BBC yn dathlu’r athletwyr, y cyn-athletwyr a’r sefydliadau sy’n gweithio’n galed i weithredu ac ysbrydoli newid.

Enwebwyd Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino oherwydd ‘ei waith dylanwadol yn defnyddio poblogrwydd pêl-droed i helpu cymunedau lleol i deimlo ymgysylltiad gwell â chadwraeth bywyd gwyllt a dysgu am effeithiau newid hinsawdd’. Defnyddir [y gynghrair] ‘fel cyfrwng i ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr i gymryd rhan weithredol yn yr achos cadwraeth.’

Wrth galon y prosiect hwn mae Davey, masgot rhino a grëwyd gan adran Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd a Wild Connect, a helpodd i ennyn diddordeb miloedd o blant ledled Affrica yn yr achos hollbwysig hwn.

Treuliodd dysgwyr creadigol chwe mis diflino yn datblygu’r rhino chwe throedfedd i gychwyn Cynghrair Pencampwyr Cwpan Rhino 2022 ac addysgu Affrica wledig am erchyllterau potsio rhinoserosiaid. Cafodd y masgot ei hedfan allan i Mozambique i arwain yr ymgyrch a thrwy gydol y tymor mae pentrefi cyfan wedi dod at ei gilydd.

Sefydlwyd The Wild and Free Foundation yn 2016 a’i nod yw gweithio i amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd yn Affrica. Crëwyd Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino ar ôl i gynrychiolwyr o’r sefydliad deithio i bentrefi gwledig ym Mozambique, lle’r oedd canran uchel o ddynion ifanc yn cael eich arestio neu ladd ar ôl bod yn rhan o botsio rhinoserosiaid.

Gyda’r pentrefi hyn yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Kruger – sy’n gartref i 85% o rinoserosiaid Affrica – roedd yr elusen eisiau dysgu yn uniongyrchol gan y pentrefwyr beth ellid ei wneud i atal potsio. Yn dilyn adborth gan aelodau’r gymuned, trefnodd yr elusen y gynghrair bêl-droed i gadw dynion y pentrefi’n brysur ac yn llawn cymhelliant.

Ers i Gynghrair Pencampwyr Cwpan Rhino gael ei chyflwyno, mae pentrefi Mozambique wedi gweld gostyngiad dramatig yn nifer y marwolaethau ac arestiadau o ddynion ifanc o ganlyniad i botsio rhinoserosiaid, a lleihad yn nifer y bobl sy’n gadael ysgol ac yn beichiogi yn eu harddegau.

Gyda dros 90,000 o wylwyr gemau pêl-droed rhwng 2019 a 2022, mae cymunedau cyfan wedi’u dyrchafu drwy’r sgiliau a’r cyfleoedd gwaith a’r cyfeillgarwch a grëwyd drwy’r Gynghrair.

Mae Alistair Aston, Arweinydd Creu Propiau yng Ngholeg y Cymoedd, wrth ei fodd gyda’r newyddion am gydnabyddiaeth y Gynghrair. Dywedodd: “Rydym mor falch o fod wedi cyfrannu at achos mor bwysig. Ein nod oedd i’r masgot gael ei ddefnyddio fel arf addysgiadol hwyliog, gan helpu rhinos i ymddangos yn llai ymosodol yng ngolwg y cymunedau lleol.

Mae ‘Davey’ y Rhino Mawr o gymoedd Cymru bellach yn symbol o genhadaeth y Gynghrair i godi ymwybyddiaeth am gadwraeth rhinoserosiaid a gwarchod ei rywogaethau rhag difodiant. Dymunwn y gorau i Gynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino gyda’r gydnabyddiaeth anhygoel hon.”

Bydd enillwyr Gwobrau Chwaraeon Gwyrdd y BBC yn cael eu cyhoeddi drwy wefan BBC Sport ddydd Llun, 2 Hydref.

Diweddariad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2023 

Enillydd Gwobr Sefydliad Llawr Gwlad Gwobrau Chwaraeon Gwyrdd y BBC 2023 yw Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino.

Dywedodd y pwyllgor enwebiadau: “Mae Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino yn ddull gwahanol iawn o godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, ond mae’n un llwyddiannus iawn. Mae eisoes wedi tyfu fel cystadleuaeth yn gynghrair bêl-droed a gyflwynir ichi gan eichrhinoseros lleol.” 

Dywedodd cyd-sylfaenydd Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino, Matt Bracken: “Daeth Cynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino o ofyn: ‘Sut allwn ni helpu i atal dynion ifanc rhag mynd i’r warchodfa bywyd gwyllt a pheryglu eu bywydau a bywydau anifeiliaid i ladd yr anifail hwnnw er elw?’ Mae’n gynghrair bêl-droed a gyflwynir ichi gan eich rhinoseros lleol – ac mae hynny’n dod â chymaint. Mae’n dod â thosturi, hapusrwydd, gobaith a chariad. Syniad y cymunedau ydoedd a dyna pam ei fod yn llwyddiant.” 

Hoffai Coleg y Cymoedd estyn eu llongyfarchiadau i Gynghrair Pencampwyr Cwpan y Rhino.

I edrych ar y cyrsiau Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i: www.cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau