Myfyriwr y Cymoedd yn mynd i Rydychen

Llongyfarchwyd dau o fyfyrwyr Lefel A Coleg y Cymoedd am eu rhan mewn Ffug Gyngor yr Undeb Ewropeaidd a gynhaliodd Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.

Cynrychiolwyd y coleg gan ddau fyfyriwr Lefel A, Chloe Radcliffe a Mathew Cullen, yn ystod Ffug Gyngor yr Undeb Ewropeaidd lle daeth pobl ifanc ledled Cymru at ei gilydd a chael blas ar y prif broblemau sy’n effeithio ar yr UE a’r modd y mae’n dod i’w benderfyniadau.

Mae’r digwyddiad blynyddol a fynychwyd gan Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn rhan o raglen ehangach sy’n cynnwys myfyrwyr o golegau ar draws Cymru gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o faterion yr UE a manteision bod yn aelod o’r UE. Y cynigion gerbron oedd bod yr UE yn dod yn ffederasiwn o wladwriaethau cenedlaethol i ymateb i’r argyfwng ariannol a derbyn aelodau newydd i’r UE wedi i Croatia ymuno â’r UE.

Neilltuwyd bod yn aelodau o wladwriaeth Denmarc ar gyfer Mathew a Chloe o Goleg y Cymoedd ar gyfer y Ffug Gyngor. Bu rhaid iddyn nhw ddadlau’r ddau gynnig oedd gerbron, a datgan eu barn eu gwlad ar sail eu hymchwil ac yna arwain trafodaeth.

Llongyfarchwyd Matthew a Chloe gan y coleg am ddatblygu ac arddangos sgiliau nodedig mewn cyfathrebu, syniadau dadansoddiadol ac arweinyddiaeth, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol a threfniadol a rhagori mewn amgylchedd proffesiynol.

Ymunodd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Jaunpiebalga yn Latvia gyda’r myfyrwyr. Roedd Llysgennad Latvia, Ei Ardderchowgrwydd Mr. Andres Teikmanis a Mr. Andy Taurins, Rhaglaw Anrhydeddus Latvia, yn bresennol hefyd.

Dywedodd Elaine Griffiths a gynorthwyodd y myfyrwyr yn yr achlysur: “Roedd cymryd rhan yn Ffug Gyngor yr UE yn gyfle amhrisiadwy i Mathew a Chloe i roi eu sgiliau dadlau a thrafod ar brawf. Roedd yr achlysur yn llwyfan rhagorol iddyn nhw ddeall sut mae proses yr UE o wneud penderfyniadau yn gweithio a’r modd y mae’r UE yn gwneud penderfyniadau. Cawson nhw gipolwg ar y broses gyfansoddiadol ond hefyd eu cymell i ystyried ystod eang o gyfleoedd sydd yn agored iddyn nhw yn yr UE.”

Dywedodd Matthew Cullen: “Wrth gymryd rhan, codwyd ein hymwybyddiaeth o’r dadleuon ar ymestyn yr Undeb Ewropeaidd ac ar Ffederasiwn Ewropeaidd. Amlygwyd manteision ac anfanteision bod yn aelod o’r UE, nid yn unig i Gymru ond i’r Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yr UE, gyda’r dadleuwyr yn cyfrannu pwyntiau roedden nhw wedi eu hymchwilio’n drylwyr, a llawer o’r pwyntiau yn ein gwneud i ystyried ac ail-werthuso’n barn. Roedd cymryd rhan yn brofiad pleserus iawn.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau