Myfyriwr yn athro yn ei hen goleg

Mae dysgwyr o Goleg y Cymoedd wedi treulio’r nos yn cysgu dan y sêr i godi gyfraniad ariannol sylweddol at Shelter Cymru, yr elusen ar gyfer y Digartref.

Bu tri ar ddeg o ddysgwyr y cwrs Lefel 3 BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’u tiwtoriaid yn cysgu allan ar nos Iau oer i godi arian ar gyfer yr elusen sy’n gweithredu i dargedu materion digartrefedd, pwnc y mae’r dysgwyr wedi bod yn ei astudio.

I sicrhau bod y profiad yn un dilys, penderfynodd y grŵp hefyd y bydden nhw’n ‘bysgio’ ar risiau campws Ystrad Mynach ar gyfer y myfyrwyr a’r staff oedd yn pasio, ac yna’n gadael y coleg ar ddiwedd y dydd, er mwyn casglu digon o arian i gael cinio. Aeth yr elw o hynny hefyd at Shelter Cymru.

Bu’r dysgwyr Gofal hefyd yn hyrwyddo Shelter Cymru i’w cyd-ddysgwyr drwy greu posteri maint llawn o bobl digartref, i’w harddangos ym mannau cymunedol y coleg, gyda chwestiynau treiddgar fel Wyt ti’n gallu ‘ngweld i?”.

Drwy ymdrechion y grŵp ar y diwrnod, ac yn y mis arweiniodd at y ‘Cysgu Allan’, casglwyd dros £300 i’w anfon i’r elusen.

Yn ôl un tiwtor, Kirsten Stevens-Wood: “Roedd y profiad hwn yn hynod werthfawr i’r dysgwyr gan eu bod nawr yn llwyr sylweddoli a chydymdeimlo â’r bywyd y mae rhai’n gorfod ei wynebu. Mae profiadau fel hyn yn addysgu llawer mwy ar ein dysgwyr nag y gellid ei gyfleu mewn ystafell ddosbarth.”

Dywedodd un o’r dysgwyr, Alicia Quarterly: “Er ei bod yn anodd cysgu allan, rwy’n falch i mi gymryd rhan. Agorodd hyn fy llygaid i’r anawsterau bywyd bob dydd sydd gan rai pobl. Rwy’n falch i ni lwyddo i godi cymaint o arian i’r elusen.”

Dywedodd y tiwtor, Karen Stratford-Davies: “Rydyn ni’n hynod o falch bod y dysgwyr wedi cymryd rhan gyda chymaint o frwdfrydedd, gan gasglu’r arian a chodi ymwybyddiaeth ynglÅ·n ag achos mor bwysig â digartrefedd, yn arbennig wrth i’r tywydd oeri a’r Nadolig nesáu.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau