Cafodd myfyrwyr o ardal Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sy’n mynychu Coleg y Cymoedd eu gwahodd i fynegi eu barn am y rhwydweithiau cerddoriaeth sydd ar radio’r BBC drwy’r DU.
Bu dros 40 o fyfyrwyr a staff yn rhan o achlysur wedi ei drefnu gan Gyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC (CCC) i gasglu barn cynulleidfaoedd am orsafoedd miwsig radio’r BBC, barn fydd yn cyfrannu at gyngor a gynigir gan y CCC i Ymddiriedolaeth y BBC wrth i'[r corff hwnnw gynnal adolygiad ar wasanaethau’r gorsafoedd radio hyn.
Cynhaliwyd y drafodaeth ar gampws Nantgarw a chafodd y myfyrwyr gyfle i fynegi eu sylwdau personol am gynnyrch BBC Radio 1, Radio 1 Extra, Radio 3, 6 Music a’r rhwydwaith Asiaidd, BBC Asian Network.
Un o’r myfyrwyr fu’n cymryd rhan oedd Rhodri Parker, myfyriwr ail flwyddyn BTEC Lefel 3 mewn cyfrifiadureg ar gampws y Coleg yn Nantgarw.
Dywedodd Rhodri Parker, 18 oed o Gaerdydd: “Fi oedd un o’r rhai cyntaf i ymuno â’r drafodaeth ac fel siaradwr Cymraeg ron i’n awyddus iawn i fynegi fy marn ar yr angen i raglenni Cymraeg apelio mwy at gynulleidfa ieuengach.â€
Derfnyddir canfyddiadau’r drafodaeth ynghyd â chanlyniadau digwyddiadau estyn allan eraill i fod yn sail i gyngor y Cyngor ar gyfer Ymddiriedolaeth y BBC.
Dywedodd Sion Brynach, cydlynydd trefn lywodraethol ac ysgrifennydd Cyngor Cynulleidfa Cymru: “Mae digwyddiadau’r Cyngor lle caiff aelodau glywed yn uniongyrchol gan y gynulleidfa bob amser yn ddiddorol ond roedd yn wych profi brwdfrydedd staff a myfyrwyr fel ei gilydd dros y gerddoriaeth a glywir ar radio’r BBC yn ystod y digwyddiad yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r radio yn amlwg yn bwysig ym mywydau llawer o bobl ac roedd yn wych i allu clywed ganddyn nhw yn bersonol am yr hyn mae staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd yn ei fwynhau ac am yr allbwn o gerddoriaeth radio’r BBC y gellid ei wella. Roedd y Cyngor yn gwerthfawrogi’n fawr y croeso a’r help gawson nhw gan y coleg i gynnal y digwyddiad hwn.
Dywedodd Karen Phillips, dirprwy bennaeth Coleg y Cymoedd: “Roedden ni wrth ein bodd bod Cyngor Cynulleidfa BBC Cymru wedi gofyn i ni gynnal y digwyddiad am yr ail dro. Mae ein Coleg yn falch iawn o gynrychioli myfyrwyr ar hyd a lled Cymoedd De Cymru; gobeithio bod natur ddeinamig eich corff myfyrwyr a staff wedi rhoi cyfle i’r BBC gael darlun cywir o farn ein cymunedau.â€
“