Myfyrwraig drama lefel A yn gobeithio actio am ‘wyth diwrnod yr wythnos’

Yn gynharach yn y mis, bu myfyrwyr campws Aberdâr o Goleg y Cymoedd yn cynnig taith wib i rai o atyniadau gwyliau mwyaf poblogaidd y byd ar gyfer y staff, ymwelwyr a’r myfyrwyr.

Bu myfyrwyr o dri maes ar y campws – Cyfrifiadureg, Teithio a Thwristiaeth a Lletygarwch – yn cydweithio fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru i gynnal arddangosfa hynod ddiddorol a phroffesiynol.

Myfyrwyr Cyfrifiadureg Lefel 3 oedd yn gyfrifol am drefniadaeth yr arddangosfa. Hwy oedd yn bwcio’r lleoliad, gosod y byrddau arddangos, hysbysebu’r achlysur a hefyd gwahodd pawb yno.

Bu’r myfyrwyr Diploma Lefel 2 BTEC mewn Teithio a Thwristiaeth yn creu’r byrddau arddangos am ganolfannau twristaidd nodweddiadol. Roedd yr hysbysfyrddau’n rhoi manylion am y llety, tywydd ac atyniadau yn y mannau gwyliau hyn a bu’r myfyrwyr yn siarad â’r ymwelwyr, gan gynnig gwybodaeth gyffredinol.

I ategu’r byrddau arddangos, bu myfyrwyr Lletygarwch y cwrs City & Guilds yn darparu bwydydd o bob rhanbarth, a bu hynny’n boblogaidd gan bawb. Roedd hyn yn cynnwys ‘pizza’ o’r Eidal gyda basgedi parmesan o salad, a hefyd ‘Far Bretonne’, sef teisen ffrwyth a brandi o Lydaw, a danteithion tapas o Sbaen.

Bu’r achlysur yn llwyddiannus iawn, gan ddenu llif cyson o ymwelwyr mewnol ac allanol i weld y stondinau a blasu’r bwydydd. Wedi mynd drwy’r arddangosfa, gofynnwyd i’r ymwelwyr bleidleisio dros stondin a danteithion.

I gloi’r digwyddiad, cyflwynodd Joan Siddle, Is-Bennaeth Gwasanaethau a Chymorth Dysgwyr, dystysgrif i oreuon pob categori. Kathryn Carter enillodd y wobr am y bwyd oedd yn blasu ac edrych orau a dyfarnwyd Mitchell Jones yn orau am arddangosfa Teithio a Thwristiaeth. Wrth longyfarch yr enillwyr, canmolwyd yr holl ddysgwyr, gan ddweud eu bod i gyd yn enillwyr! Cyfeiriodd Mrs Siddle at y cyfleoedd allai godi yn y dyfodol pan fydd myfyrwyr ar ymweliadau cyfnewid â rhai o’r gwledydd yn yr arddangosfa.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau