Myfyrwyr Coleg yn rhoi eu barn am y BBC

Mae Cynllun Iaith sydd wedi ei ddarparu gan Goleg y Cymoedd bellach yn barod ar gyfer cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r cynllun yn seiliedig ar un blaenorol oedd wedi ei ddarparu gan Goleg Morgannwg gynt. Bellach, mae wedi ei addasu yn dilyn uno’r coleg hwnnw â Choleg Ystrad Mynach ar Awst 1 2013. Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y bydd y Coleg yn trin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal, gan ystyried y canllawiau a ddarparwyd gan Gomisynydd y Gymraeg a CholegauCymru.

Mae’r Coleg wedi mabwysiadu egwyddor Llywodraeth Cymru o brif ffrydio a bydd yn ystyried yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’i waith ac ym mhopeth y bydd yn ei wneud. Y nod fydd sicrhau bod y coleg yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg, gan gynnwys cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Fel coleg rydyn ni wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg a hyrwyddo dwyieithrwydd. Rydyn ni’n awyddus i wneud cyfraniad sywleddol at weledigaeth Llywodraeth Cymru sydd am weld Cymru wir ddwyieithog; mae gan ein coleg newydd enw Cymraeg i adlewyrchu dyheadau’r coleg i fod yn ddwyieithog yn ogystal â’i ymwneud â chymoedd De Ddwyrain Cymru.

Mae copi o’r Cynllun i’w gael ar wefan y Coleg: /cymraeg?lang=cy neu gallwch alw ar y ffôn i ofyn am gopi: 01443 663096. Rydyn ni’n gwahodd y cyhoedd i anfon eu sylwadau ar y Cynllun drafft, drwy anfon e-bost at: david.finch@cymoedd.ac.uk neu drwy lythyr at: David Finch, Y Dirprwy Bennaeth, Coleg y Cymoedd, Nantgarw, Heol y Coleg, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QY. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 30 Mai 2014.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau