Cafodd myfyrwyr Coleg y Cymoedd gyfle i glywed hanes Eva Clarke, un a oroesodd yr Holocost. Roedd hyn yn rhan o ymweliad a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Dewiswyd dysgwyr hefyd i fynd ar ymweliad addysgol i Auschwitz.
Yn dilyn ei sgwrs, atebodd Eva gwestiynau gan y myfyrwyr mewn sesiwn oedd yn galluogi’r myfyrwyr i ddeall natur yr Holocost yn well ac i ystyried y gwersi a ddysgwyd mewn mwy o ddyfnder. Roedd yr ymweliad yn rhan o raglen eang Estyn Allan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, rhaglen sydd ar gael i ysgoloion ar draws y DU.
Dyweodd Kim Purnell y Tiwtor Busnes: “Roedd yn fraint i ni groesawuu Eva Clarke i’r Coleg a bydd ei hanes grymus yn ein hatgoffa’n barhaus o’r erchyllderau a brofwyd gan gymaint o bobl. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost am gydlynu’r ymweliad a gobeithio, ar ôl clywed hanes Eva, y caiff ein myfyrwyr eu cymell i ddysgu o wersi’r Holocost a gwneud gwahaniaeth positif yn eu bywydau eu hun.â€
Ychaenegodd Karen Pollock MBE, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, “Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn addysgu ac ymglymu myfyrwyr ar draws y DU o bob cymuned am yr Holocost a does dim gwell ffordd na thrwy dystiolaeth un a oroesodd. Hanes dewrder mawr ydy hanes Eva yn ystod amgylchiadau erchyll a thrwy glywed ei thystiolaeth, caiff myfyrwyr gyfle i ddysgu beth ydy pen draw rhagfarn a hiliaeth.
Yn yr Ymddiriedolaeth, rydyn ni’n trosglwyddo hanes yr Holocost i bobl ifanc er mwyn sicrhau ein bod yn coffau y rhai y gollodd eu bywydau a throsglwyddo’r gwersi a ddysgwyd gan y rhai a oroesodd.â€
Fel rhan o brosiect ‘Lessons from Auschwitz’ dewiswyd pedwar myfyriwr i fynd ar ymweliad diwrnod ag Auschwitz. Dewiswyd Jodie Baker a Sandra Kawowska sy’n astudio Gwasanethau Cyhoeddus lefel 3 ar gampws Ystrad Mynach ynghyd â Georgia Gale ac Elisha Kelly, sy’n astudio Busnes ar gampws Nantgarw, i fynd ar yr ymweliad. Ymunodd y pedwar â grŵp o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws y wlad am daith drwy’r gwersyll.
Aeth y grŵp i weld nifer o farics, yr amlosgfeydd a’r siamberi nwy a hefyd fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn seremoni fyfyrio yn Amlosga 11 sydd wedi ei dinistrio lle wnaethon nhw oleuo canwyllau a’u gosod o gwmpas adfeilion yr adeilad.
Dywedodd Elisha “Ron i wedi darllen am erchyllderau Auschwitz ac wedi gwylio rhaglenni dogfen ar y teledu ond roedd ei weld yn bersonol yn rhywbeth gwahanol iawn. Roedd y profiad mor emosiynol ac yn rhoi bywyd mewn persbectif ond fe greodd argraff barhaol arna i.“
Ychwanegodd Georgia: “Fe ges hi’n anodd gweld eiddo pobl, yn enwedig eddo’r plant. Wrth fod yno roeddech yn gallu teimlo’u profiad.â€
Cyn iddyn nhw ymweld ag Auschwitz mynychodd y myfyrwyr sesiynau i’w paratoi ac ar ôl dychwelyd cymeron nhw ran mewn sesiynau dibriffio; ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio ar brosiect i rannu eu profiadau gyda myfyrwyr eraill.
“