Myfyrwyr o Gymru yn y Dwyrain pell

Cymerodd merch ifanc o’r Rhondda ei chamau cyntaf mewn gyrfa deledu ar ôl cyfnod, drwy wahoddiad, ar gynllun hyfforddi gydag arbenigwyr o’r BBC, ITV2, Endemol a Sky News.

Roedd Shauna Ryall, 19, o’r Porth, yn un o’r 50 o ieuenctid o bob cwr o’r DU deithiodd i Gaeredin i for yn rhan o’r cwrs ‘The Network’ – pedwar diwrnod o gwrs dwys i fyfyrwyr y diwydiant teledu sydd wedi rhoi cychwyn ar yrfa rhai o’r wynebau cyfarwydd a’r cyfarwyddwyr blaenaf.

Roedd Shauna mewn cwmni dethol, gan mai dim ond dau o Gymru enillodd le ar y cynllun, ar ôl iddi wneud cais yn ystod ei blwyddyn olaf yn astudio Lefel A ar Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd.

Golygodd cynllun ‘The Network’, sy’n digwydd yn flynyddol yn ystod Gŵyl Deledu Ryngwladol Caeredin, bod Shauna yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr ar waith tu ôl i’r sgrin, ac yna gweithredu fel cynhyrchydd cynorthwyol a rheolwr llawr mewn rhaglen deledu dwy awr o hyd, oedd yn cael ei hystyried fel pe bai’n darllediad byw.

Wrth adrodd am ei phrofiad yn Nghaeredin, meddai Shauna: Ar y dechrau, roeddwn i yn awyddus i fod tu ôl i’r camerâu ond cynigiodd ‘The Network’ sawl cyfle i mi, ac fe wnes i wir fwynhau bod yn gynhyrchydd cynorthwyol.

“Un o’r pethau gorau am y cynllun oedd cael siarad â rhai o feddylfryd tebyg i mi, sydd ag uchelgais i fynd i’r diwydiant teledu. Roedden ni’n codi am 6 o’r gloch y bore i gychwyn gweithdai ac roedd digon o gymdeithasu gyda’r nos hefyd!”

Bydd Shauna yn parhau i gael budd o’r cynllun hyfforddi, gan y bydd ‘The Network’ yn darparu mentor am flwyddyn i bob un fu ar y cwrs, ac yn rhoi arweiniad am gyfweliadau sydd o’u blaenau a helpu i greu cysylltiadau a rhwydweithiau ar gyfer pobl ifanc llawn gobeithion. Caiff Shauna ei mentora gan Mog McIntyre, sydd wedi gweithio ar raglenni radio amser brecwast Chris Evans ar BBC Radio 2.

Fel rhan o gynllun ‘The Network’ bydd Shauna hefyd yn cael blas ecsliwsif ar swyddi a chyfleoedd drwy gynllun lleoliad gwaith atodol o’r enw ‘The Network at Work’, sy’n rhoi cyfle i geisio am rolau ar lefel derbyn tâl yn y diwydiannau darlledu amlycaf yn y DU, gan gychwyn Ionawr nesaf.

Ar ôl iddi’n ddiweddar gwblhau ei phynciau Lefel A mewn Busnes a Ffotograffiaeth ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, mae Shauna ar hyn o bryd yn gweithio fel ffotograffydd llawrydd ac mae hi wedi bod yn ddiwyd yn creu enw da iddi ei hunan yn yr ardal.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod o falch o Shauna, ac yn llawn ddisgwyl y daw hi’n enw mawr mewn teledu yn y dyfodol. Mae hi’n ymgnawdoliad o’r hyder a’r dyfeisgarwch rydyn ni’n geisio ei blannu yn y cyfan o’n myfyrwyr, pa bynnag lwybr maen nhw’n ddewis ar ôl dyddiau coleg. Rydyn ni hefyd yn hynod falch y bydd hi, tra’n aros am ei chyfle mawr mewn teledu, yn rhoi ar waith y sgiliau ddysgodd hi yng Ngholeg y Cymoedd. Dymunwn y gorau iddi hi.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau