Myfyrwyr wrth eu bodd gyda Doctor Who

Mae grŵp o fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd wedi rhoi ysbrydoliaeth i’w tiwtor ennill gwobr mewn cystadleuaeth genedlaethol ar ddwyeithrwydd, a hynny drwy waith roedden nhw wedi ei wneud i addysgu ymwelwyr o Tsieina am Gymru.

Roedd y dosbarth Busnes Lefel 3 ar gampws Ystrad Mynach wedi creu cyflwyniad PowerPoint ar y testun ‘Pam bod Cymru’n wych’ i’w ddangos i fyfyrwyr ac athrawon oedd ar ymweliad o ddinas Chongqing yn Tsieina. Gan i’r gwaith wnaethon nhw ei blesio, anfonodd y tiwtor un o’r sleidiau i gystadleuaeth dwyieithrwydd Sgiliaith ac fe enillodd hynny wobr.

Cyflwynwyd y wobr, gwaith celf cyfoes Cymreig, i Al Koursaros gan Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y coleg ac mae’r dosbarth cyfan wedi derbyn y clod am y llwyddiant. Cafodd y dysgwyr eu llongyfarch gan nifer o aelodau o staff y coleg, gan gynnwys Y Pennaeth, Judith Evans. Mae’r llun buddugol hefyd yn cael ei weld ar wefan Sgiliaith.

Nod y gystadleuaeth oedd canfod llun fyddai’n cyfleu ‘r Iaith Gymraeg, dwyieithrwydd neu Gymru a Chymreictod yn y sector Addysg Bellach neu Ddysgu Seiliedig ar Waith, ynghyd â disgrifiad byr neu slogan i egluro’r llun.

Yn ôl Alison Jones, Hyrwyddwraig Dwyieithrwydd Ystrad Mynach: “Amcan cystadleuaeth Sgiliaith oedd hyrwyddo Cymru/ Y Gymraeg/dwyieithrwydd ac fe wnaeth Al a’r myfyrwyr hyn yn dda iawn ar gyfer cynulleidfa darged benodol. Mae’r dysgwyr yn gwneud gwaith ar ‘Gymru a’r Byd’ yn y cwrs Bagloriaeth ond roedd hyn yn goron ar y cyfan!

Yn ôl y tiwtor buddugol, Al Koursaros: “Roedd ein dysgwyr wedi gwir fwynhau croesawu’r myfyrwyr o Tsieina. Roedden nhw’n awyddus i fod yn rhan o’r rhaglen gyfnewid ddiwylliannol a’r bartneriaeth ddysgu y mae’r coleg yn ei rhannu gyda dinas Chongqing yn Tsieina, yn ogystal â dysgu Cymraeg i’w ffrindiau Tsieiniaidd newydd. Mae’n ffantastig bod eu gwaith wedi ei gydnabod, nid yn unig gan y coleg, ond yn genedlaethol wrth ennill gwobr yng ngystadleuaeth Sgiliaith.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau