Myfyrwyr yn arddangos eu ffasiynau uwch-gylchu

Mae myfyrwyr Gofal o gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd wedi codi dros £600 yn ogystal â chyfrannu nwyddau argyfwng megis dillad a nwyddau ymolchi. Bydd cyfraniadau hael y myfyrywr yn rhan o’r nwyddau sy’n cael eu hanfon i Ynysoedd y Philipiniaid. Bydd Cymdeithas Ffilipinaidd De Cymru yn anfon cyflenwadau i’r wlad i helpu gyda phrosiectau adfer. Bydd yr arian a godir gan y myfyrwyr o’u gweithgareddau codi arian yn mynd tuag at gostau cludo’r holl nwyddau.

Daeth aelodau pwyllgor Cymdeithas Ffilipinaidd De Cymru sef Evelyn Morgan, y Cadeirydd, Theodore Arriola, y Dirprwy Gadeirydd, Len Viajar, yr Ysgrifennydd, Arlene Barron, y Trysorydd, a Felma Arriola, Cydlynydd y Gweithgareddau Codi Arian i ymweld â’r myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Iechyd a Gofal Plant a Gofal Cymdeithasol, i ddiolch iddyn nhw’n bersonol am eu gwaith caled yn codi swm mor anrhydeddus o arian.

Yn ystod yr ymweliad, bu’r myfyrwyr yn holi’r Cadeirydd am y problemau roedd teuluoedd yn eu hwynebu yn Ynysoedd y Philipiniaid ac am y gwahaniaeth fyddai eu cyfraniadau yn eu wneud i’r wlad yn sgil trychineb y Teiffŵn ym mis Tachwedd a effeithiodd ar tua 13 miliwn o bobl. Dywedodd y myfyrwyr nad oedden nhw “wedi sylweddoli maint y dinistr nes i’r Cadeirydd sôn bod ei theulu wedi gorfod rhedeg am eu bywyd.”

Dywedodd Karen Stratford-Davies, y tiwtor, “Mae gwaith caled a charedigrwydd y myfyrwyr yn codi cymaint o arian yn codi’n calon yn enwedig ar adeg y Nadolig fel hyn.” Addawodd Gill Tyler a Sharon Reed, dau diwtor arall drefnu gweithgareddau ychwanegol yn y flwyddyn newydd i godi arian gyda’r myfyrwyr gan y bydd angen cymorth am gryn amser eto.

Daeth yr ymweliad i ben gydag Aelodau’r Gymdeithas yn canu Carol Nadolig draddodiadol yn yr iaith Tagalog, iaith yr Ynysoedd. Ceisiodd y myfyrwyr ymuno gyda nhw gyda chymorth copi o’r geiriau. Dywedodd Evelyn Morgan, Cadeirydd Cymdeithas Ffilipinaidd De Cymru, “Rydyn nhw wedi’n syfrdanu gan y croeso cynnes a dderbynion ni heddiw gan y staff a’r myfyrwyr. Roedden ni’n disgwyl cael ein tywys i swyddfa a derbyn siec. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am y rhodd a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i blant a theuluoedd Ynysoedd y Philipiniaid.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau