Mae grŵp o fyfyrwyr astudiaethau’r Tir wedi gwneud eu marc ar dir y coleg gan roi’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn y dosbarth ar waith. Treuliodd y grŵp, sy’n astudio ar Gampws Rhondda Coleg y Cymoedd, y pedwar mis diwethaf yn gwella tir y campws.
Dywedodd eu tiwtor, Janine Parry: Mae’n brosiect ardderchog ar gyfer dysgwyr. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych yn barod ac eisoes wedi gwneud gwahaniaeth i’r campws.
“Mae’n dda gweld y dysgwyr yn defnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu ar y cwrs a’u rhoi ar waith. Maen nhw i gyd wedi mwynhau trin y pridd ac fe ddaw eu gwaith caled yn amlwg i bawb yn ystod y misoedd i ddodâ€.
Mae’r cwrs Diploma Lefel 1 Astudiaethau’r Tir (Garddwriaeth) a Bagloriaeth Cymru yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ar gampws Rhondda ac eisoes mae’n gwrs poblogaidd ymhlith dysgwyr sydd am symud ymlaen i gyrsiau uwch eu lefel yn y dyfodol.
Dywedodd Sara Tutton, Cyfarwyddwr y Campws: “Mae’r dysgwyr wedi bod yn brysur iawn o gwmpas y campws, wedi bod yn plannu coed, perthi a bylbiau, wedi clirio gwelyau ar gyfer plannu ac wedi gwella darn o dir a’i baratoi ar gyfer tyfu eu llysiau eu hunain.
“Llynedd, ar y cyd â’r Comisiwn Coedwigoedd, crewyd ardal Ysgol y Goedwig ar y campws er mwyn rhoi cyfle i’n dysgwyr brofi dull addysgol o fynd ati ym maes chwarae a dysgu yn yr awyr agored. Mae’r myfyrwyr garddwriaeth wedi gwella’r ardal hon, yn ychwanegu gwestai ar gyfer chwilod, llwybr newydd ac mae mwy o gynlluniau yn yr arfaeth i godi ardal addysgu o foncyffion.
“Nid yn unig bydd ein dysgwyr yn elwa o’r hyfforddiant yn y goedwig, ond bydd hefyd yn darparu adnodd cymunedol pwysig i ysgolion lleol ymweld ag e a’i archwilio.â€
“