O’r Cymoedd i Fenis, aeth y dysgwyr hyn y filltir ychwanegol ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol

Mae grŵp o ddysgwyr o Dde Cymru wedi neidio ar y cyfle i gael persbectif rhyngwladol ar yrfaoedd eu breuddwydion yn gweithio gyda phlant, ar ôl cyfnewid y Cymoedd am Fôr y Canoldir i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith dwys yng ngogledd yr Eidal.

Mae Keira-Lee Walker (18), Sian Lawrence (17), Gemma Lynch (35) a Leah Oakes-Bickford (18), wedi treulio’r pythefnos diwethaf yn gweithio dramor fel rhan o daith a drefnwyd gan eu tiwtoriaid coleg.

Wedi’i drefnu fel rhan o raglen ariannu’r UE ERASMUS +, caniataodd y daith i’r pedwar dysgwr gofal plant o Goleg y Cymoedd ennill profiad gydag ysgol feithrin a chynradd yn nhref Castelfranco Veneto yng Ngogledd yr Eidal, 25 milltir o Fenis.

Roedd y daith pythefnos yn gyfle i brofi gwahanol systemau addysg ac ymagweddau tuag at ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Yn ystod y lleoliad, cafodd y dysgwyr gipolwg ar sut mae cwricwlwm a diwylliant yr Eidal yn wahanol i’r DU, gan rannu’r sgiliau gofal plant y maent wedi’u hennill yng Nghymru.

Mae Keira-Lee Walker o Aberbargoed yn gobeithio bod yn gynorthwyydd addysgu ar ôl cwblhau ei hastudiaethau. Wrth ystyried y cyfle dywedodd: “Rwyf wedi bod eisiau profi addysgu mewn gwlad arall erioed ac mae’r daith hon wedi bod yn agoriad llygad anhygoel.“

Mae mor ddiddorol gweld y gwahaniaethau yn y ffordd y caiff y blynyddoedd cynnar eu haddysgu yn yr Eidal a gobeithiaf y bydd y profiad o weithio dramor gyda phlant o wahanol ddiwylliannau yn fy helpu i sefyll allan pan fyddaf yn gorffen coleg ac yn edrych am fy swydd gyntaf. Roedd pawb yn yr ysgol yn gyfeillgar iawn, roeddwn yn teimlo’n gartrefol ymhlith y staff ac yn teimlo fel rhan o’r ysgol er gwaethaf y rhwystr ieithyddol. ”

Ychwanegodd Sian Lawrence, o Gaerffili: “Pan glywais am y lleoliad, roeddwn yn gwybod bod rhaid imi wneud cais. Gwelais ef fel cyfle perffaith i wthio fy hun a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Roedd mynd i’r Eidal yn hyfryd, ond rwy’n credu mai’r hyder a fagwyd wrth wynebu’r her o roi cynnig ar rywbeth mor wahanol a fydd o fudd mawr imi yn y dyfodol. ”

Yn ogystal â chael profiad gwaith ymarferol yn Castelfranco, cafodd y dysgwyr gyfle hefyd i weld rhywfaint o ddiwylliant yr Eidal, gan gymryd rhan mewn teithiau yn y rhanbarth ac ymweld â dinas Fenis gerllaw.

Wrth drafod manteision lleoliad dramor, ychwanegodd Gemma Lynch, dysgwr aeddfed, sy’n gobeithio gweithio fel nyrs gymunedol: “Os bydd unrhyw un arall yn cael y cyfle i astudio dramor, byddwn yn dweud ewch amdani. Byddwch yn dysgu cymaint, yn broffesiynol ac yn bersonol. ”

Yn ôl yng Nghymru, mae pob un o’r dysgwyr yn astudio ar gyfer y Diploma Estynedig lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd ganddynt y dewis o symud ymlaen i’r brifysgol neu ddechrau gyrfaoedd fel cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr cymorth un-i-un, nyrsys meithrin, neu gynrychiolwyr gwyliau i blant.

Mae Leah Oakes-Bickford, yn bwriadu dilyn llwybr y brifysgol i yrfa fel athro un-i-un: “Mae wedi bod mor ddiddorol gweld sut mae plant eraill yn cael eu haddysgu mewn rhan arall o’r byd. Mae’r profiad wedi meithrin fy sgiliau wrth weithio gyda phlant ac wedi fy helpu i fagu fy hyder.”

Dywedodd Angela Jones, tiwtor cwrs yn Ysgol Gofal Coleg y Cymoedd:“ Roedd y daith i’r Eidal yn gyfle gwych i Keira-Lee, Sian, Gemma a Leah fanteisio ar y cyfle i brofi gwahanol ddulliau o addysgu a defnyddio’r sgiliau y maent wedi gweithio’n galed i’w datblygu yma yn y coleg.

“Mae profi gwahanol ymagweddau at addysg mewn diwylliannau eraill yn cynnig cyfle i archwilio arferion newydd y gallant eu defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n set sgiliau sy’n sicr o’u helpu i sefyll allan o’r dorf a byddwn yn parhau i gynnig cyfle i’n dysgwyr gael mynediad at gyfleoedd tebyg a fydd yn eu helpu i ragori. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau