Panel Ysbrydoledig yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Roedd staff a myfyrwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn falch iawn o groesawu panel o westeion ysbrydoledig i gampws Nantgarw’r coleg, i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Agorodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Karen Phillips, y digwyddiad, a ddaeth â phedwar siaradwr gwadd o ystod o broffesiynau ynghyd i gymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol.

Ymhlith y panelwyr roedd – Tracey Smolinski, sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr rhwydwaith busnesau annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, Introbiz. Mae gan y rhwydwaith dros 300 o aelodau o ystod eang o ddiwydiannau a sectorau, ac mae’n cynnal 60 o ddigwyddiadau rhwydweithio’r flwyddyn mewn amryw o leoliadau 4 a 5 seren ledled De Cymru ac yn rhyngwladol.

Siaradodd Tracey yn agored am y modd yr oedd yn edrych ar rwydweithio yn y ffordd anghywir yn ystod ei thri mis cyntaf gan ei bod yn gwerthu’n rhy galed. Bu bron iddi roi’r gorau iddi’n llwyr, ond cyn hynny, cymerodd ychydig o gyngor da iawn.

Yn cynrychioli Chwarae Teg, rhannodd y Partner Datblygu Dysgu Beth Baldwin, rhai heriau personol a’i gwaith yn y sefydliad h.y. ysbrydoli menywod yng Nghymru i gymryd perchnogaeth o’u gyrfaoedd a datblygu eu sgiliau drwy gyflawni eu rhaglen datblygu gyrfa unigryw. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o rymuso menywod i gyrraedd eu potensial, cefnogi menywod i deimlo’n fodlon gyda’r dewisiadau a wnânt yw cenhadaeth Beth o hyd. Enillodd wobr Pride of Britain am godi arian ac ymroddiad i wneud gwahaniaeth drwy annog pobl eraill i wneud yr un peth.

Rhannodd Sarah-Jane Worley, Pennaeth Gweithrediadau British Airways Interiors Engineering, ei phrofiad o weithio yn BAIE am dros 21 mlynedd, yn BAIE a BAMC. Mae’r cwmni’n cynnal a chadw tu mewn i awyrennau, offer diogelwch ac yn cynhyrchu carpedi ar gyfer fflyd gyfan BA . Amlinellodd Sarah-Jayne ei thaith ddysgu bersonol a’i llwybr gyrfa, gan ddangos os ydych chi eisiau rhywbeth – gallwch chi ei gyflawni. Mwynhaodd staff a dysgwyr weithgaredd Sarah,  arddangos siacedi achub a baratowyd yn BAIE.

Rhannodd aelod o’r panel, Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg ei hatgofion o Streic y Glowyr i ddangos pa mor gryf yw menywod a’r rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ar draws ystod o gyfleoedd cyflogaeth ac yn 2014, cychwynnodd Rachel ar Brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol i drawsnewid canolfan ddydd pobl hÅ·n sy’n eiddo i’r cyngor yn Hwb Cymunedol bywiog yn Aberdâr. Mae’r Prosiect, o’r enw Cynon Linc, wedi denu dros £2.6m o fuddsoddiad o ystod o ffynonellau, a fydd yn caniatáu i’r hwb gynnig cyfleusterau gofal dydd i hyd at 29 o blant, Meddygfa Teulu, caffi a bistro dementia, cyfleusterau synhwyraidd, Hwb Gwybodaeth a phencadlys yr elusen.

Mwynhaodd y gynulleidfa’r digwyddiad yn fawr. Dywedodd y fyfyrwraig Sarah James (17) o’r Porth “Fe wnes i fwynhau’r sesiwn yn fawr. Roedd gan bob un o’r siaradwyr straeon personol ysbrydoledig gwahanol i’w hadrodd; ond roedd y neges yr un peth gan bob un ohonynt- “Credwch ynoch chi’ch hun a gallwch chi gyflawni”!

Wrth gloi’r digwyddiad dywedodd y Pennaeth Karen Phillips, “Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n myfyrwyr a’n staff gael eu hysbrydoli gan banel mor brofiadol o fodelau rôl diddorol a rannodd eu profiadau personol. Cafwyd neges glir gan bob panelwr, gyda gwaith caled ac agwedd gadarnhaol – mae unrhyw beth yn bosibl!

Hoffwn estyn fy niolch i’r holl siaradwyr am ymuno â’r coleg i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae’r coleg yn awyddus i gefnogi ei fyfyrwyr i ennill profiad a sgiliau sy’n gysylltiedig â gyrfa ac mae ganddo Gynllun Mentora Merched sydd â 21 o fentoriaid ar hyn o bryd; pob un yn ferch hynod lwyddiannus ac uchel ei pharch yn eu meysydd proffesiynol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau