Paru talent Coleg y Cymoedd â rôl Datblygwr yn Digital Chimps

Pan oedd Elliott Williams, dysgwr Coleg y Cymoedd, yn agosáu at gwblhau ei Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth ar gampws Nantgarw, mynegodd ddiddordeb yn y rhaglen Brentisiaeth. Yn ymwybodol o sgiliau cyfrifiadurol Elliott gan gynnwys rhwydweithio, fe’i cyfeiriwyd gan Barbara Hayman, ei Diwtor Cwrs TG, at Swyddfa Gyflogaeth Tîm y Dyfodol yn y coleg.

Gweithiodd y Tîm Dyfodol gydag Elliott i ddatblygu ei CV, gan sicrhau ei fod yn meddu ar y gofynion perthnasol ar gyfer y rolau yr oedd ganddo ddiddordeb ynddynt, ym maes Datblygu Meddalwedd TG.

Yn ystod y cyfnod yr oedd yn ymgysylltu â Thîm y Dyfodol cysylltodd Stephen Hewitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Digital Chimps ym Mhontypridd â Thîm y Dyfodol i weld a allent ei helpu i ddod o hyd i’r dalent gywir i lenwi rôl Datblygwr Iau.

Roedd y set sgiliau a’r wybodaeth yr oedd Elliott wedi’u meithrin yn ystod ei gyfnod yn y coleg yn gweddu i’r swydd yn Digital Chimps yn berffaith ac argymhellwyd Elliott gan Dîm y Dyfodol, gan anfon ei CV at y cwmni i’w ystyried.

Gwahoddwyd Elliott i gyfweliad a chynigiwyd cyfle iddo weithio i’r busnes 2 ddiwrnod yr wythnos i ennill rhagor o brofiad yn y cwmni dylunio gwefannau a marchnata digidol. Roedd yn gyfle gwych i Elliott ennill profiad a gwell dealltwriaeth o’r gwasanaethau dylunio, datblygu a marchnata digidol.

Penodwyd Elliott i rôl Datblygwr Iau a’i gofrestru ar Brentisiaeth Gweinyddiaeth Fusnes a fyddai’n darparu anghenion hyfforddi penodol, gan roi gwell dealltwriaeth i Elliott o weithio mewn busnes bach.

Wrth siarad am gynnydd Elliott, dywedodd Emma Davies, Cynghorydd Hyfforddi Tîm Diwydiannau Gwasanaeth Proffesiynol Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg y Cymoedd Mae Elliott wedi cychwyn yn dda gyda’i raglen brentisiaeth ac mae eisoes wedi cwblhau ei unedau sefydlu. Mae’n gweithio’n agos gyda’i gyflogwr i uwchsgilio a dysgu rhagor am y busnes.

Ychwanegodd Stephen Hewitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Digital Chimps “Cyn i Elliott gael ei benodi fel Datblygwr Iau roedd wedi bod yn dod i mewn fynd dros ei wefan bortffolio gyda mi a chael cymorth gydag amrywiol agweddau ar y busnes. Rwy’n ddiolchgar i Goleg y Cymoedd am yr holl wybodaeth a chefnogaeth gyda’r penodiad newydd i’m busnes “.

Wrth longyfarch Elliott ar ei gynnydd, ychwanegodd Michele Harris-Cocker, Cydlynydd Tîm y Dyfodol

“Mae Elliott yn weithiwr proffesiynol ifanc groyw, llawn cymhelliant ac angerdd sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’w rôl newydd ac sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd i helpu i gyflawni ei uchelgais gyrfa”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau