Mae Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg y Cymoedd wedi ennill un o’r cymwysterau uchaf mewn hyfforddi pêl-droed rhyngwladol.
Mae Pennaeth Cynorthwyol Addysgu a Dysgu Coleg y Cymoedd, Neil Smothers, wedi ennill Trwydded Broffesiynol UEFA, cymhwyster gorfodol i hyfforddwyr sydd am weithio mewn cynghreiriau cenedlaethol ledled Ewrop.
Mae gyrfa Neil fel chwaraewr pêl-droed ac addysgwr wedi cydblethu ers iddo chwarae i’w dîm prifysgol, UWIC (Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach), wrth iddo astudio ar gyfer ei radd addysgu. Cynlluniwyd y cwrs Trwydded Broffesiynol i roi’r hyfforddiant, y gefnogaeth a’r arweiniad angenrheidiol i ddarpar hyfforddwyr i lwyddo ar y lefel uchaf un mewn pêl-droed.
Yn ystod ei yrfa led-broffesiynol mae Neil Smothers wedi chwarae i sawl clwb yng Nghymru ac wedi hyfforddi’n rhyngwladol. Yn 2019, fe’i penodwyd yn rheolwr tîm Tref Caerfyrddin, lle aeth â nhw i’r nawfed safle yn ei dymor llawn cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru.
Sicrhaodd Trwydded Broffesiynol UEFA yn dilyn 18 mis o hyfforddiant a gynlluniwyd i baratoi cyfranogwyr ar gyfer rolau rheoli a hyfforddi ar lefel elit y gêm gan gynnwys lefel rhyngwladol, Uwch Gynghrair, Cynghrair Pêl-droed ac Uwch Gynghrair Merched y Gymdeithas Bêl-droed.
Fel rhan o’i hyfforddiant, teithiodd Neil i astudio gyda’r clwb o Sweden AIK Fotboll ac ymweld â phencadlys UEFA yn Nyon, y Swistir. Yma yng Nghymru, cafodd Neil a’i gyd-hyfforddwyr y cyfle i arsylwi a thrafod gwaith tîm rygbi cenedlaethol Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gêm y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban.
Hefyd, elwodd y grŵp o weithio gyda rhai o reolwyr a chwaraewyr proffesiynol rhyngwladol mwyaf profiadol Cymru, gan gynnwys rheolwr tîm cenedlaethol Cymru Ryan Giggs a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru sydd bellach yn athletwr gwytnwch corfforol, Richard Parks.
Wrth sôn am ei gyflawniad a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Neil Smothers: “Rydw i wedi mwynhau trosglwyddo’r gwersi a’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu ar y cae i ddysgwyr erioed. Mae dilyn cwrs Trwydded Broffesiynol UEFA wedi bod yn fraint ac yn brofiad anhygoel.
“Ar y lefelau uchaf mewn chwaraeon, mae llwyddiant yn gofyn am gymaint mwy na sgiliau ar y cae; mae helpu i ddatblygu timau a chwaraewyr yn cymryd arloesedd a’r gallu i ddod o hyd i ddulliau newydd. I mi, y nod yw rhannu’r hyn rydw i wedi cael y cyfle i’w ddysgu gyda fy nghydweithwyr a’n dysgwyr, fel y gall rhagor o bobl elwa o’r profiadau rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i’w cael.
“