Perfformiadau proffesiynol o weithiau Shakespeare i’w cynnal ar Noson Guto Ffowc

Am y tro cyntaf mae dysgwyr ar draws Coleg y Cymoedd yn cymryd rhan mewn perfformiadau yn ystod Gŵyl ddrama nodedig ‘Shakespeare for Schools’.

Mae grwpiau o ddysgwyr o dri champws yn perfformio detholiad byrion hanner awr o waith Shakespeare mewn un noson yn Theatr y Coliseum yn Aberdâr Dydd Iau Tachwedd 5ed.

Gŵyl ‘Shakespeare for Schools’ ydy’r ŵyl ddrama ieuenctid fwyaf yn y DU a’r byd, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr o bob cefndir i berfformio Shakespeare ar eu llwyfan proffesiynol leol

Bydd dysgwyr ar y cwrs Celfyddydau Perfformio o gampws Rhondda yn perfformio’u fersiwn dalfyredig o Macbeth, bydd dysgwyr o grŵp Theatr HWB o gampws Nantgarw yn perfformio Nos Ystwyll (Twelfth Night) a bydd dysgwyr Mynediad Galwedigaethol o gampws Ystard Mynach yn perfformio’r ‘Tempest’.

Bydd tri grŵp dysgwyr perfformio Coleg y Cymoedd yn rhannu’r noson gyda dysgwyr o Ysgol Gyfun Aberpennar a fydd yn perfformio ‘A Midsummer Night’s Dream’.

Mae’r coleg wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai tiwtor a dysgwyr mewn cydweithrediad â Gŵyl ‘Shakespeare for Schools’ sy’n sefydliad wedi’i leoli yn Llundain ac yn cynnal digwyddiadau ar hyd a lled y DU gyda’r bwriad o gyflwyno dysgwyr i gwmni theatr proffesiynol.

Ochr yn ochr â’r noson wych hon o adloniant, mae’r digwyddiad yn gyfle i arddangos talentau’r dysgwyr o bob campws, y rhai sy’n ennill cymhwyster yn y celfyddydau creadigol a’r rhai ar raglenni academaidd eraill sy’n cymryd rhan drwy’r raglen gyfloethogi HWB.

Dywedodd y tiwtor, Rebecca Francis Jones, oedd yn cydlynu drama campws Nantgarw: “Mae’n gyfle cyffrous i bawb sy’n cymryd rhan. Dyma’r tro cyntaf i Goleg y Cymoedd gymryd rhan yng Ngŵyl ‘Shakespeare for Schools’ ac mae’n wych bod myfyrwyr o dri champws yn cael perfformio ar yr un noson a gweld eraill wrthi hefyd.”

“Hyd yn hyn, mae’r cyfle wedi bod yn wych, gyda diwrnod hyfforddi rhagorol ar gyfer staff a gynhaliwyd gan ‘Shakespeare for Schools’ lle cafwyd llawer o syniadau sut i fynd ati, felly cyfle gwych i staff yn ogystal â’r dysgwyr.”

“Peidiwch â cholli’r noson hon o ddiwylliant, hwyl ac efallai ychydig o dân gwyllt.” Mae’r tocynnau ar werth nawr a gallwch eu harchebu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar: 08000 147111 neu gysylltu ar: http://coliseum.rct-arts.org/en/whats-on/view/2015/11/05/shakespeare-schools-festival2

 

Rhagor am y perfformiadau a’r cast fesul campws:

Nantgarw – Nos Ystwyll (Twelfth Night)

“Ar gampws Nantgarw rydyn ni’n gweithio ar y gomedi Nos Ystwyll, fel rhan o raglen HWB; mae’n wych bod y myfyfrwyr yn cael cyfle i gael profiad mor sylweddol a boddhaus drwy’r rhaglen hon.

Mae cymysgedd o fyfyrwyr Drama UG ac A2, pynciau eraill Lefel A a phynciau galwedigaethol a myfyrwyr o’r cwrs Celfyddydau Perfformio ar lefel mynediad.

Mae’n broses wir gynhwysol a’r dysgwyr yn arwain y ffordd. Maen nhw wedi dal ar y cyfle ac maen nhw i gyd yn gyffrous am gael perfformio mewn theatr broffesiynol gyda chynorth pobl broffesiynol y diwydiant.

I ddysgwyr drama UG, mae’n ategu eu hastudiaeth ar gyfer eu harholiad ymarferol gan fod Nos Ystwyll yn un o’r testunau. I ddysgwyr drama A2, mae’n ychwanegu dimensiwn arall i’w gwerthusiad ymarferol lle mae rhaid cynnwys cyfleoedd dysgu synoptig o’u cwrs. Mae’r broses hyd yn hyn wedi bod yn ddull gwych i ddysgwyr newydd gwrdd â dysgwyr eraill, bondio a datblygu cyfeillgarwch ar draws yr holl gampws.

Mae’r dysgwyr hefyd yn ymateb yn dda i sialensiau’r ieithwedd a’r ddrama ei hun – maen nhw wedi bod yn chwerthin am y cynnwys ac wedi llwyfannu llongddrylliad go wir! Mae’r myfyrwyr wedi ymateb i Shakespeare ac mae hyn yn dangos llwyddiant cynllun fel Gŵyl SFS.”

Ymhlith y dysgwyr talentog mae:

Gerome Jackson – Bu Gerome yn rhan o Theatr Gerdd Hwb a chymerodd ran mewn tair sioe y llynedd. Erbyn hyn mae ar y cwrs Celfyddydau Perfformio lefel mynediad y mae Darren Hardwicke yn ei gynnal.
Thomas Whitcombe – Cwblhaodd Thomas ei Lefel A llawn mewn Drama ac mae’n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn gorffen ei gyrsiau lefel A mewn Cerddoriaeth, Saesneg a’r Cyfryngau. Yn ddiweddar bu’n rhan o gynllun haf y Theatr Genedlaethol Ieuenctid ac mae’n fy nghynorthwyo i gyfarwyddo a chydlynu’r grŵp Hwb – mae’n defnyddio hyn fel cyfle i gryfhau ei Ddatganiad Personol.
Mae Cerys Haines a Cory Baker yn fyfyrwyr A2, yn parhau gyda Hwb ac yn cymryd rhan yn SFS i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymarferol.
Mae Jess Thomas yn un o’r myfyrwyr MAT (y Mwy Galluog a Thalentog); dydy hi ddim yn astudio drama ond mae wrth ei bodd yn perfformio a chymerodd ran ym mhob un o sioeau Coleg y Cymoedd y llynedd.
Mae Edward Franks-Herbert yn ddysgwyr UG newydd a gychwynnodd ym mis Medi; mae’n mwynhau Shakespeare a phob agwedd o berfformio.

Ystrad Mynach – The Tempest

“Mae’r wythnosau nesaf yn argoeli i fod yn amser cyffrous i grŵp o actorion ifanc brwd o Gampws Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd. Dewiswyd deg o fyfyrwyr y cwrs Mynediad Galwedigaethol i gymryd rhan yng Ngŵyl ‘Shakespeare for Schools’. Mae eu cyd-fyfyriwr James Evans yn ymuno â nhw a fe ydy’r unig un o’r cast sydd ag unrhyw brofiad blaenorol o actio.

Dydy hi ddim yn hawdd o bell ffordd i ymgymryd â’r sialens o berfformio fersiwn dalfyredig o’r Tempest ond dyna’n union yr hyn y mae’r cwmni penderfynol dibrofiad hwn yn ei wneud.

Mae’r ymarferion yn mynd yn dda ac mae’r myfyrwyr, dan ofal Donna Evans, sy’n Gynorthwy-ydd Cymorth Dysg a Chyd-gyfarwyddwr, hyd yn oed wedi ymweld â’r Coliseum yn Aberdâr i fod yn rhan o weithdy actio llawn gwybodaeth a hwyliog iawn.

Hoffai’r Cyfarwyddwr Graham J. Evans ddiolch i Steve Todd am ei gymorth gyda’r sain a’r traciau sain a Theatr Fach Y Coed Duon am eu haelioni yn gadael i ni gael benthyg gwsigoedd a ‘phrops’.

Isod mae enwau’r cast talentog:

Craig Stone
Emily Bates
James Evans
Lisa Lawrence
Brandon Lower
Shannon Llewellyn
Rhys Pile
Rhia Palmer
Jamie Stone

Rhondda – Macbeth

“Bu myfyrwyr cwrs y Celfyddydau Perfformio yn gweithio’n galed ar ein darn Theatr ‘Gorfforol’ ar gyfer yr ensemble. Rydyn ni wedi gweddnewid y ddrama’n llwyr ac wedi’i gwneud yn eitha cyfoes a diddorol i’r gynulleidfa, gan ddefnyddio trac sain drwyddi a’n hagwedd gorfforol a’r sefyllfaoedd arloesol yn dal sylw’r gynulleidfa.

Mae cymysgedd o fyfyrwyr Lefel 2 a 3 y Celfyddydau Perfformio yn gweithio ar y prosiect ac rydyn ni wrth ein bodd yn siopa, dyfeisio a chreu agweddau o’r holl broses. Mae dysgwyr yn rhan annatod o’r prosiect yn cynnig eu syniadau gwreiddiol a’u coreograffi eu hunain i ddod â stori drasic drama Shakespeare yn fyw. Mae’r broses wedi bod yn fodd cyffrous i ddysgwyr newydd i ryngweithio, archwilio ac i fod yn gefnogol o’i gilydd mewn sefyllfa ensemble.

Mae’r myfyrwyr wedi dangos gwir frwdfrydedd a hoffter o waith Shakespeare sy’n dangos pa mor berthnasol ydy ei waith heddiw i’r genhedlaeth fodern.

Mae fideos a lluniau o’n gweithdai a’n coreograffi eisoes ar gael ar ‘YouTube’ ac ar ein gwefan. Rydyn ni hefyd yn trydar ac ar Instagram.”

Ymhlith y myfyrwyr talentog sy’n perfformio yn y cynhyrchiad mae:

Liam Hatch – Liam ydy ‘Macbeth’ ac mae’n fyfyrwyr Ail Flwyddyn Lefel 3. Mae’n Fodel ei hun ac wedi bod mewn nifer o ffilmiau a hysbysebion adnabyddus yn y DU a thrwy Ewrop.
Megan Dimond – Megan ydy ‘Lady Macbeth’; mae’n fyfyrwraig Lefel 3 yn ei Hail Flwyddyn. Mae’n berfformwraig wych. Mae’n gweithio fel perfformwraig mewn partïon plant a digwyddiadau ac wedi bod mewn dramâu fel ‘Blood Brothers’.
Laura West – Mae Laura sy’n fyfyrwraig Lefel 3 yn ei Hail Flwyddyn yn chwarae un o’r 3 gwrach. Mae’n ‘extra’ rheolaidd yn y gyfres ‘Stella’ ar Sky 1. Mae hefyd wedi gweithio ar setiau llawer o raglenni ar gyfer teledu ar hyd a lled Cymru.
Elizah Appiah – Mae Eliza sy’n fyfyrwraig Lefel 3 yn ei Hail Flwyddyn yn chwarae rhan ‘Malcolm’ ac yn rhan o’r ensemble. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ar ‘Casualty’ ac wedi bod ynghlwm wrth Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â’r stiwdio actorion yno.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau