Prentis ar lwybr yrfa ddelfrydol

Mae’r Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol (Mawrth 14-18) yn destun dathlu yng Ngholeg y Cymoedd eleni, gan ei fod yn nodi penblwydd swyddogol cyhoeddi Canolfan Rhagoriaeth y Coleg ar Hyfforddiant Gwaith Rheilffordd, canolfan gwerth milynau o bunnau.

Un flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r buddsoddiad o £3,08 miliwn i adeiladu Canolfan Gwaith Rheilffordd y Coleg yn darparu cyfleusterau hyfforddiant heb eu hail ar gyfer dros 70 o ddysgwyr gan gynnwys nifer o leoedd y mae galw mawr amdanyn nhw ymhlith cyflogwyr blaenllaw’r diwydiant.

Chloe Thomas, prentis Trenau Arriva Cymru, ydy un o’r dysgwyr cyntaf i elwa o gyfleusterau’r ganolfan ddysgu dan do flaengar ac o gael replica realistig o drac rheilffordd tu allan.

Ar hyn o bryd, mae Chloe, 18 oed o’r Barri, yn astudio ar gwrs Lefel 3 Atodol mewn Technoleg Electronig. Meddai hi: “Dewisodd Trenau Arriva Cymru Goleg y Cymoedd ac rydw i wedi elwa’n fawr o’r amser yr wyf wedi’i dreulio yma, mae’r cyfleusterau a’r athrawon yma’n wych. Dw i’n wir fwynhau fy amser yma ac ar ôl y cwrs dwy flynedd hwn dwi am aros yma ar gyfer fy HND mewn peirianneg.

“Y brentisiaeth gyda Threnau Arriva Cymru ydy fy swydd lawn amser gyntaf; mae llawer i’w ddysgu ond dwi’n mwynhau pob munud. Un o’r elfennau mwyaf pleserus ydy natur amrywiol y gwaith. Mae pob diwrod yn wahanol gyda sialens arall i’w hwynebu.

“Bydd gweithio mewn sefydliad mor fawr a llwyddiannus a’r gallu i ddefnyddio’r sgiliau dwi’n eu dysgu yn rhoi sail ar gyfer gyrfa lwyddiannus a hir i mi yn y diwydiant.

“Byddwn yn annog unrhywun sy’n ystyried gyrfa ym maes peirianneg i feddwl am y diwydiant gwaith rheilffordd gan mod i wedi cael profiad dysgu gwych. Dw i’n edrych ymlaen at fy nyfodol gydag Arriva.”

Dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd: “Lluniwyd ein cyfleuster rheilffordd er mwyn i’n dysgwyr fod yn rhan flaengar o weithlu medrus gwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Gyda rhaglenni buddsoddi mawr mewn rheilffyrdd ar y gweill, ein gobaith ydy y bydd ein dysgwyr, fel Chloe, yn ystyried eu hamser yn y ganolfan rheilffordd yn sail i yrfaoedd boddhaus yn y diwydiant.”

Er 2014 mae trenau Arriva Cymru wedi recriwtio 12 Prentis o dan 24 oed gyda saith yn sicrhau gwaith llawn amser a’r pum arall yn gweithio i ennill cymwysterau mewn amrediad eang o ddisgyblaethau o beirianneg (HNC), TGCh (Tystysgrif Lefel 3 NVQ), Gweinyddu Busnes (Tystysgrif Lefel 3 NVQ) er mwyn sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol gyda phrif weithredydd rheilffyrdd Cymru.

Dywedodd Elin Thomas, rheolwr Recrwtio a Thalent ar gyfer Trenau Arriva: “Mae recriwtio ein prentisiaiad wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddarpar gynaliadwyedd y busnes gyda phob un o’n prentisiaid dros y blynyddoedd diwethaf wedi sicrhau cyflogaeth ym maes busnes, o wasanaethau cwsmeriaid a chynllunio trenau i beirianneg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau