Prentis arbennig wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau mawr

Daeth prentis Coleg y Cymoedd gyda British Airways Maintenance Caerdydd yn agos iawn i frig gwobr prentis y flwyddyn.

Enwebwyd Aled Hughes, 22 mlwydd oed o Abercynon, ar restr derfynol Cymru Gwobrau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol EEF yng nghategori Prentis y Flwyddyn.

Cyrhaeddodd Aled y rhestr fer ar ôl proses o gyfweliadau dwys a chafodd ei enwebu gan fynychu’r seremoni wobrwyo ddiweddar yng ngwesty St Davids, Ewlo, ger Caer.

Dywedodd Aled “Dw i wedi mwynhau’r rhaglen brentisiaeth yn fawr iawn, a dw i’n teimlo ei fod wedi rhoi’r cychwyn gorau posib i mi yn fy ngyrfa.

“Dw i’n hynod ddiolchgar am i mi gael fy enwebu am y wobr. Mae’r brentisiaeth wedi bod yn heriol ar adegau ond mae’r gydnabyddiaeth yma yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil!”

Dywedodd Stuart Rich, pennaeth gweithrediadau British Airways Maintenance Caerdydd (BAMC): “Mae pawb yma yn BAMC yn falch ofnadwy o Aled.

“Mae o’n llysgennad gwych i’r cwmni hedfan, yn broffesiynol iawn ac, ynghyd â’n prentisiaid eraill i gyd, yn aelod gwerthfawr o deulu BAMC.

“Mae rhaglen brentisiaeth British Airways yn galw am y safonau uchaf posib, ac mi ydyn ni’n falch iawn bod y rhinweddau hynny wedi cael eu cydnabod yn nghamp Aled.”

Dywedodd Steve Manning, tiwtor Coleg y Cymoedd: “Mae angen ymrwymiad, ymroddiad a ffocws, nid am un diwrnod, nac am wythnos ond am dair blynedd gyfan! Mae Aled wedi cynnal y nodweddion hynny tra’n cyrraedd safon uchel iawn o waith academaidd ac ymarferol.

“Mae gan Aled rinweddau personol arbennig iawn, yn enwedig am berson mor ifanc; mae wastad yn gyfeillgar, mae ganddo iaith lafar dda, mae’n gwrtais ac yn broffesiynol ei agwedd.

“Beth bynnag yw’r dasg, mae’r unigolyn hwn yn mynd ati gyda brwdfrydedd diddiwedd i gwrdd â’r targed neu’r nod sydd wedi’i osod. Fel y gwyddon ni, mae’r diwydiant hwn yn dibynnu’n helaeth ar Waith Tîm a dyma lle mae Aled yn disgleirio, wrth gymysgu ag eraill ar bob lefel yn rhwydd gan gyfrannu’n llawn. Mae hi wedi bod yn bleser pur gweithio gydag e a phrofi’r fath dalent.”

Gwobrau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol EEF ydy’r gydnabyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol fwyaf sefydledig sy’n uchel eu parch fel dathliad o lwyddiant ym maes gweithgynhyrchu.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau