Dyfarnwyd mai Jonathan Elley, prentis peirianneg o Goleg y Cymoedd gyda chwmni GE Aviation Cymru ydy ‘Prentis Blwyddyn Gyntaf Nodedig y Flwyddyn’ yn seremoni Wobrwyo EEF UK Future Manufacturing.
Enwyd Jonathan, 23 oed yn Brentis Blwyddyn Gyntaf yn seremoni Wobrwyo Rhanbarthol Cymry ym mis Tachwedd 2015 cyn ennill teitl y DU.
Mae gwobrau’r EEF Future Manufacturing Awards, a noddir gan Aldermor, yn un o’r gwobrau mwyaf sefydledig ac uchel eu parch yn y diwydiant peirianneg.
Cafodd brwdfrydedd Jonathan dros beirianneg a’i ymroddiad i’w brentisiaeth eu cydnabod. Roedd gwybodaeth, brwdfrydedd a’i awydd am wneud yn dda yn ei brentisiaeth ac yn y diwydiant awyrofod wedi creu argraff ddofn ar y beirniaid.
Roedd prentis GE Aviation Cymru yn cystadlu yn erbyn pum prentis da arall o’r DU, a phob un yn ceisio dangos i’r beirniaid eu hymroddiad i’w prentisiaethau a’u bod yn benderfynol o ddilyn gyrfa yn maes gweithgynhyrchu.
Cynhaliwyd y seremoni yn y Connaught Rooms yn Covent Garden, Llundain .
Yng ngeiriau Jonathan Elley, prentis GE Aviation Cymru a Choleg y Cymoedd: “Dw i wrth fy modd i ennill y teitl Prentis Blwyddyn Gyntaf y Flwyddyn. Mae’n deimlad anhygoel i gael fy nghydnabod fel hyn am wneud rhywbeth dwi wirioneddol yn ei fwynhau. Ar gychwyn fy ngyrfa ydw i a bydd yn gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig. Gobeithio bydd fy llwyddiant yn annog prentisiaid eraill i gystadlu am y gwobrau hyn ac i bobl ifanc eraill hefyd ystyried o ddifrif bod yn brentisiaid.â€
Dywedodd La-Chun Lindsay, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Cymru: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn mae Jonathan wedi’i gyflawni yn y seremoni nodedig hon. Mae Jonathan yn gaffaeliad mawr i gwmni GE Aviation Cymru ac mae eu alluoedd technegol wedi creu argraff arnon ni i gyd. Gwnaeth argraff ar y beirniaid hefyd gyda’i ymroddiad a’i benderfyniad i lwyddo. Mae’n wych bod ei frwdfrydedd dros ei brentisiaeth a’r diwydiant wedi cael ei gydnabod.â€
“Mae’r rhaglen brentisiaeth yn rhan annatod o’n broses recriwtio ac rydyn ni wedi sefydlu rhaglen brentisiaeth gadarn yn GE Aviation Cymru mewn partneriaeth gyda Choleg y Cymoedd. Dw i wedi ymroi i weld y rhaglen hon yn llwyddo gan ein bod yn credu’n gryf mai prentisiaethau ydy seiliau creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y busnes. Mae ein rhaglen brentisiaeth hefyd yn hanfodol i ddatblygu talent ifanc yng Nghymru. Dymunaf bob lwc yn y dyfodol i Jonathan a phawb arall gafodd eu henwebu.â€
Dywedodd Nigel Townsend, Tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: Mae Jonathan wedi gweithio’n ddiflino yn ystod ei amser yng Ngholeg y Cymoedd i gyflawni canlyniadau rhagorol; mae’n esiampl wych i ddarpar brentisiaid ac mae’n llwyddo i gyfuno gwaith caled, brwdfrydedd a chael hwyl ym mhopeth mae’n ei wneud. Da iawn ti, Jonathan!”
“