Prentis o blymwr ar flaen y gad

Mae staff a phrentisiaid adran gwaith plymio Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant un o’u plith am yr ail flwyddyn yn olynol.

Enillodd Scott Fuller, prentis blymwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio ar gampws Ystrad Mynach, ei le yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn y DU cylchgrawn ‘Heating Engineers Installers & Plumbers’

Yn y rownd derfynol Cymru roedd Scott, 20 oed, yn cystadlu yn erbyn prentisiaid o unarddeg o golegau eraill. Roedd y gystadleuaeth frwd yn para chwe awr a phob cystadleuydd yn gorfod mynd i’r afael â’r sialens o osod cawod, toiled, basn llaw a system saniflo (tanc malu) a hynny o fewn amser penodol. Yn y pen draw, sgiliau technegol Scott a’i sylw at fanylion enillodd y teitl prentis blymwr gorau Cymru iddo.

Yn dilyn ei lwyddiant yn rownd derfynol Cymru a gynhaliwyd ym Mhen-y- bont ar Ogwr, bydd Scott nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli ei wlad yn ffeinals y DU, a’r cystadlu yn digwydd dros ddau ddiwrnod yn Cheltenham ar Ebrill 29 a 30.

Dywedodd Scott: ”Roedd hi’n wych ennill rownd derfynol Cymru llynedd ond roedd ennill am yr ail dro yn olynol yn ffantastig. Dw i’n teimlo mwy hyderus eleni gan fy mod yn gwybod beth i’w ddisgwyl a lefel y gwaith sydd rhaid i mi ei gyflawni.

Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych, yn gweithio’n gyson i godi fy hyder a gwella fy sgiliau yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, a hyd yn oed cynnig prentisiaeth i mi. Bydd ffeinals y DU yn her fawr ond gobeithio y bydda i’n ennill rhagor o sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gyflawni fy nghymwyster llawn mewn gwaith plymio.”

Dywedodd Lee Perry, tiwtor gwaith plymio Scott: “Roedd yn bluen fawr yn het Scott i ennill y gystadleuaeth ranbarthol y llynedd ond mae ennill am yr ail dro yn olynol yn dangos ymrwymiad, brwdfrydedd a phenderfyniad Scott i fod yn beiriannydd ardderchog. Mae Scott wedi gwella ym mhob agwedd o’r grefft drwy gydol y flwyddyn.

Fel prentis Lefel 3 mae Scott yn rhannu ei amser rhwng dysgu ar gampws Ystrad Mynach Coleg a’i brentisiaeth gyda Perry Plumbing Solutions.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Scott yn gredyd i’n coleg; mae’n dangos sut mae gwaith caled a thiwtora ymroddedig yn rhoi cyfleoedd galwedigaethol rhagorol a swyddi go wir mewn amrediad o ddiwydiannau a chrefftau cydnabyddedig. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y gystadleuaeth genedlaethol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau