Mae darlithwraig coleg o’r Cymoedd, oedd heb drafod pêl rygbi nes cyrraedd 17 mlwydd oed, yn dathlu ennill ei hanner canfed cap gyda sgwad cenedlaethol rygbi merched Cymru yng ngêm gynta twrnameint RBS y Chwe Gwlad.
Disgrifiodd Catrina Nicholas, darlithydd chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd, y profiad o gamu ar y cae i gynrychioli ei gwlad ar gae Talbot Athletyic yn Aberafan fel “anrhydedd a braint.â€
Y tro cynta i’r darlithydd 31 oed o Donteg gydio mewn pêl rygbi oedd fel aelod o dîm ei chweched dosbarth cyn mynd i astudio a chwarae i goleg UWIC, sydd bellach yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Heddiw, yn ogystal â chynrychioli ei gwlad ar lefel rhyngwladol, mae Catrina’n chwarae i un o glybiau rhanbarth Gleision Caerdydd, sef Merched Ystum Taf, (Llandaff North Ladies).
Pan na fydd hi ar y cae chwarae, mae Catrina’n addysgu cyrsiau BTEC Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd. Ymhlith ei myfyrwyr mae nifer o sgwad rygbi dynion y coleg, ac yn eu plith chwaraewyr sy’n aelodau o Academi Gleision Caerdydd, sydd wedi ei leoli ar gampws Nantgarw.
Lluniwyd yr Academi i baratoi’r genhedlaeth nesaf o sêr gyda’r adnoddau a’r hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau ar y maes, tra ar yr un pryd yn astudio am gymwysterau fydd yn caniatáu iddyn nhw ddilyn gyrfaoedd tu fas i fyd rygbi proffesiynol.
Wrth drafod ei charreg filltir ar y maes chwarae, dywedodd Catrina: “Roedd hi’n wir fraint i gael fy newis i gynrychioli fy ngwlad ac i ennill fy hanner canfed cap yn y twrnameint yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd Rygbi’r Merched. Hyd yma, mae fy ngyrfa chwaraeon wedi bod yn un hynod o foddhaol a rydw i’n falch iawn mod i’n gallu defnyddio fy mhrofiad wrth addysgu darpar athletwyr a hyfforddwyr Cymru.â€
“Gwnaed fy hanner canfed gêm yn fwy arbennig fyth gan mai yn y gêm hon y cafodd tair o’m cyd-chwaraewyr o glwb ‘Llandaff North Ladies’ eu capiau rhyngwladol cyntaf. Mae rygbi merched yng Nghymru’n parhau yn ei ddyddiau cynnar, ond rydw i’n credu bod y sgwad eleni ymhlith y rhai cryfaf hyd yma.â€
Llongyfarchwyd Catrina ar ei champ gan Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd. Meddai hi: “Mae llwyddiannau Catrina’n ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr i gyd. Bob tro mae hi’n camu ar y cae yng nghrys Cymru mae hi’n dangos beth y gall angerdd ac ymroddiad ei gyflawni. Gwell fyth, mae’r sgiliau athletaidd mae hi’n eu harddangos ar y maes yn cyfateb i’w rhagoriaethau academaidd yn y coleg. Mae ein myfyrwyr yn ffodus iawn o’i chael hi yma.â€