Prentis peirianneg o Goleg y Cymoedd yn sicrhau swydd llawn amser gyda British Airways

Mae myfyriwr peirianneg yng Ngholeg y Cymoedd wedi cael swydd amser llawn gyda British Airways (BA), ar ôl creu argraff ar y penaethiaid gyda’i gymwysterau a’i waith caled yn ystod ei brentisiaeth.

Astudiodd Arjundeep Singh, 21, NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu – Ffitio a Chydosod a BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg y Cymoedd fel rhan o’i brentisiaeth gyda British Airways, gan ennill clod dwbl * gan arwain at sicrhau rôl barhaol yn y cwmni hedfan.

Ar ôl hoffi mathemateg a ffiseg erioed, cafodd Arjundeep, o Gaerdydd, ei ysbrydoli gan swydd ei dad fel peiriannydd ymchwil a dylunio, er mwyn dewis dilyn gyrfa mewn peirianneg.

Tra’n astudio ar gyfer ei BTEC mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol yng Ngholeg y Cymoedd, dyfarnwyd gwobr ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ a ‘Gwaith Gorau’ iddo gan y coleg, yn ogystal â dyfarniad ‘Prentis y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Fforwm Busnes Caerffili (wedi ei enwebu ar gyfer honno gan y coleg). Ochr yn ochr â’i gwrs BTEC, cwblhaodd Arjundeep gymhwyster NVQ Lefel 3 seiliedig ar waith yn British Airways Interior Engineering, a leolir yng Nghaerffili, a oedd yn gwbl addas o ystyried ei ddiddordeb mewn hedfan.

Ar ôl derbyn ei ganlyniadau yr haf diwethaf, parhaodd i weithio fel prentis gyda British Airways am nifer o fisoedd cyn cael cynnig swydd lawn amser yn y cwmni, gan weithio o fewn y tîm deunyddiau sy’n delio â gweithgaredd y gadwyn gyflenwi.

Bellach, ar ôl naw mis yn ei swydd amser llawn, mae Arjundeep yn gweithio fel Gweinyddwr Deunydd yn yr adran Caffael a Chyflenwi, lle mae’n helpu i weithredu cynlluniau prynu ac yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid pwysig, gan fynd i’r afael ag unrhyw faterion cyflenwad deunyddiau a sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau a rheoliadau diogelwch.

Wrth siarad am ei lwyddiant yn sicrhau’r gwaith, dywedodd Arjundeep: “Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn pan gefais y swydd gan ei fod yn dangos bod fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ers i mi ymuno â British Airways, gan gynnwys sut i ddefnyddio systemau’r diwydiant a sut i reoli perthynas â chyflenwyr a rhanddeiliaid. Mae hefyd wedi rhoi profiad gwych i mi o weithio mewn swyddfa broffesiynol ac wedi rhoi hwb i fy hyder.

“Mae British Airways hefyd wedi cyflwyno cymaint o gyfleoedd i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa gan gynnwys fy nghefnogi i gwblhau cymwysterau ychwanegol. Ar hyn o bryd rwy’n astudio tuag at fy nhystysgrif Aelod o’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (MCIPS).”

Mae’r cyn-fyfyriwr fu’n Brentis y Flwyddyn Coleg y Cymoedd yn dweud bod natur ymarferol ei gyrsiau BTEC ac NVQ yn y coleg, sydd â phwyslais ar addysgu ymarferol o amgylch sefyllfaoedd bywyd go iawn, wedi ei roi mewn sefyllfa dda ar gyfer ei brentisiaeth a’i gyflogaeth lawn amser a pharhaol ddaeth wedi hynny gyda British Airways.

“Rhoddodd fy amser yng Ngholeg y Cymoedd fantais wych i mi wrth i’r cwrs archwilio peirianneg yn fanwl gydag elfennau ymarferol gwych, hyn i gyd wrth ddysgu i mi ddefnyddio fy menter a datrys problemau, sydd wedi bod yn wers bywyd wych ar gyfer y gweithle.

“Galluogodd yr offer, y cyfarpar a’r peiriannau diweddaraf yn y coleg i mi ddysgu sut brofiad fyddai o yn y diwydiant mewn gwirionedd a chadarnhaodd hyn fy mod eisiau gweithio yn y maes hwn.

“Er ei bod hi’n anodd cyfarfod â’m tiwtoriaid yn bersonol trwy rannau o’m cwrs, oherwydd aflonyddwch y pandemig, gwnaeth y coleg yn siŵr bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi – fe aethon nhw allan o’u ffordd, hyd yn oed gyrru bob cam i British Airways dim ond i hebrwng papurau ar gyfer fy NVQ.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau