Oherwydd ei waith caled a’i agwedd benderfynol, mae dysgwr o’r Porth yn goresgyn yr heriau a ddaw yn sgil Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac wedi ennill prif wobr prentisiaeth y wlad ym maes gweithgynhyrchu a pheirianneg.
Mae dysgwr Coleg y Cymoedd, Jamie Jones, wedi ennill y Wobr ‘Ymdrech Prentis’ Gwobrau Gweithgynhyrchu Cymru 2020, sy’n cydnabod ei ddewrder a’i wytnwch drwy gydol ei raglen brentisiaeth gyda’r cwmni dylunio a gweithgynhyrchu o Lantrisant, FSG Tool and Die Ltd.
Cynhelir Gwobrau Gweithgynhyrchu Cymru yn flynyddol gan y sefydliad gweithgynhyrchu cenedlaethol, Make UK, er mwyn cydnabod a dathlu’r gorau yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Cynlluniwyd y Wobr ‘Ymdrech Prentis’ i hyrwyddo doniau newydd y diwydiant, dathlu eu hymrwymiad a datblygu gyrfaoedd yn y diwydiant.
Ymunodd Jamie, sy’n 19 oed ac yn dod o’r Porth, â Choleg y Cymoedd i astudio peirianneg i ddechrau lle arweiniodd ei ddiddordeb brwd mewn peiriannu at brentisiaeth gyda chwmni FSG Tool a Die yn Llantrisant. Ar ôl treulio tair blynedd ar gampysau’r Rhondda a Nantgarw’r coleg, mae bellach wedi ennill ei ddiploma Lefel 2 a Lefel VRQ mewn Peirianneg. Fodd bynnag, nid oedd ei daith yn un rwydd, ar ôl ei chael yn anodd setlo i’w astudiaethau oherwydd heriau ADHD.
Wrth siarad am ei brofiad a’r heriau y bu’n rhaid iddo eu goresgyn yn ystod ei astudiaethau, dywedodd Jamie: “Cefais amser caled gyda fy astudiaethau i ddechrau ac roedd yn amser eithaf tywyll imi. Yn ddiweddar, rydw i wedi cael diagnosis o ADHD, sy’n golygu fy mod yn ei chael hi’n anos na phobl eraill i ganolbwyntio yn y dosbarth.
Er gwaethaf y rhwystrau a wynebodd wrth gyflawni ei gymwysterau, dangosodd Jamie ei ddyfalbarhad ac mae disgwyl iddo gwblhau ei brentisiaeth y flwyddyn nesaf. Sylwodd y tîm yn FSG Tool and Die ar ei waith caled a’i ddyfalbarhad i ennill ei ddiplomâu mewn peirianneg, ac fe’i henwebodd ar gyfer y Wobr Ymdrech Prentis.
Ychwanegodd Jamie: “Roedd ennill y wobr yn sioc imi gan nad oeddwn yn ei ddisgwyl o gwbl. Fodd bynnag, rwy’n hapus iawn fy mod wedi ennill gwobr sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith caled rydw i wedi’i wneud. Mae Coleg y Cymoedd ac FSG Tool and Die wedi bod yn hynod gefnogol, ac rydw i’n awyddus i barhau i ddatblygu fy sgiliau a gwybodaeth mewn peirianneg. â€
Hefyd, mae cyflawniad Jamie wedi cael ei ganmol gan ei diwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd. Dywedodd Matthew Wilmington, tiwtor Peirianneg ar gampws Nantgarw’r coleg: “Astudiodd Jamie yn ein campws Nantgarw ar gyfer ei flwyddyn olaf, lle cymerodd ychydig o amser i ymgartrefu yn ei amgylchedd newydd. Fodd bynnag, parhaodd i weithio’n galed ac roedd bob amser yn weithgar ac yn gadarnhaol mewn trafodaethau dosbarth ac yn y gweithdy.“
Rydw i a thiwtoriaid eraill Jamie yn falch iawn ohono am gyflawniad mor anhygoel. Mae wir yn dangos yr hyn y gall gwaith caled ei gyflawni. â€
Fel enillydd gwobr ranbarthol ‘Ymdrech Prentis’, mae Jamie wedi symud ymlaen i rownd genedlaethol Gwobrau Gweithgynhyrchu 2020 Make UK, lle mae’n gobeithio ennill y wobr genedlaethol. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n gynnar y flwyddyn nesaf.
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR