Prentis plymio o Goleg y Cymoedd yn cael ei enwi’n blymwr ifanc gorau’r DU ac yn drydydd yn Ewrop mewn seremoni wobrwyo ryngwladol

Mae plymwr ifanc arobryn o’r Coed Duon newydd ddychwelyd o Wlad Pwyl lle bu’n cynrychioli’r DU mewn cystadleuaeth ryngwladol enwog yn cystadlu yn erbyn timau cenedlaethol o dros 32 o wledydd. Dewiswyd y prentis 21 oed o Goleg y Cymoedd, Ruben Duggan, i gystadlu yng nghategori plymio cystadleuaeth EuroSkills 2023, a gynhaliwyd yn Gdańsk, Gwlad Pwyl, ar 5 Medi. Ar ôl brwydro drwy ddau ddiwrnod dwys o gystadlu, gosodwyd Ruben yn drydydd yn ei gategori, gan ei wneud nid yn unig y plymwr ifanc gorau yn y DU, ond yn un o dri phlymwr gorau Ewrop gyfan.

Yn ei wythfed flwyddyn, EuroSkills yw’r gystadleuaeth addysg a sgiliau galwedigaethol fwyaf yn Ewrop. Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd, ac mae cannoedd o bobl ifanc, dan 25 oed, o bob rhan o’r cyfandir yn cystadlu am y cyfle i fod y gorau yn Ewrop yn eu sgil ddewisol. Ymdrinnir â 43 o sgiliau yn y digwyddiad, sy’n cael eu grwpio i chwe sector diwydiant gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu, TG, a’r diwydiant gwasanaeth.

Bu Ruben, sef yr unig berson i gynrychioli Tîm y DU yn y categori plymio, yn cystadlu mewn amrywiaeth o heriau dros ddau ddiwrnod. Treuliodd y chwe mis diwethaf yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth, gan deithio i Ogledd Iwerddon bob mis i hyfforddi ochr yn ochr ag ail aelod o garfan hir y DU a’i fentor, sydd ill dau wedi’u lleoli yn Newry, yn ogystal â threulio wythnos gyfan yn yr Almaen yn dysgu am yr offer safonol Ewropeaidd penodol a ddefnyddiodd yn ystod y gystadleuaeth.

Nid dyma ei unig lwyddiant mewn cystadleuaeth sgiliau, gan fod Ruben hefyd wedi’i ddewis i fod yn rhan o sgwad hir y DU ar gyfer WorldSkills byd-eang, a elwir hefyd yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, a gynhelir yn Lyon y flwyddyn nesaf. Yno, bydd yn cael y cyfle i gystadlu yn erbyn timau cenedlaethol o dros 80 o wledydd.

Mae’r crefftwr dawnus, sydd yn ei flwyddyn olaf fel prentis plymio a gwresogi lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd, yn gyfarwydd â chystadlu, ar ôl cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau yn ystod ei gyfnod yn y coleg gan gynnwys cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn HIP 2022 , lle y daeth yn gyntaf.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cynrychioli’r DU yn fy nghrefft yn EuroSkills eleni. Nid yn unig oherwydd y cyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth anhygoel, ond hefyd yr holl deithio rydw i wedi gallu ei wneud yn sgil y gystadleuaeth hon. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ymweld â Gogledd Iwerddon a’r Almaen ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld Gdańsk gan nad wyf erioed wedi bod yng Ngwlad Pwyl o’r blaen.

“Mae cystadlu yn EuroSkills yn bluen y fy het. Mae ennill medal rhagoriaeth yn fuddugoliaeth enfawr i mi. Os byddaf hefyd yn cyrraedd y tîm ar gyfer WorldSkills y flwyddyn nesaf ac yn mynd i Lyon yn y pen draw, byddai hynny’n goron ar ben profiad sydd eisoes yn wych, yn bersonol ac yn broffesiynol!”

Yn ôl ym mis Mai, cafodd cystadleuwyr yn y categori plymio weld lluniad o’r ystafell lle byddai angen iddynt gyflawni detholiad o wahanol heriau plymio a gwresogi, megis gosod boeleri, sinciau, rheiddiaduron a chawodydd. Ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth, newidiwyd 30% o’r cynllun lluniadu gwreiddiol, gan adael Ruben i bwyso ar ei wybodaeth a’i sgiliau ei hun i orffen y tasgau.

Mae Ruben yn hanu o deulu o blymwyr. Mae ei dad yn berchen ar fusnes plymio a gwresogi yng Nghaerffili o’r enw Powerserv LTD. Felly roedd Ruben yn gwybod erioed ei fod eisiau gweithio yn y diwydiant.

Ar ôl gorffen ei TGAU, dechreuodd Ruben weithio i Poweserv a gwnaeth gais am brentisiaeth ar Gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd. Er iddo gael ei ddal yn ôl am flwyddyn ychwanegol oherwydd y pandemig, mae Ruben wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei gyfnod yn y coleg ac mae ei lwyddiant mewn cystadlaethau wedi ei helpu i wneud enw iddo’i hun yn y diwydiant.

Ychwanegodd Ruben: “Byth ers pan oeddwn yn fy arddegau, bu gen i ddiddordeb mewn plymio. Byddwn i’n gweithio gyda fy nhad yn ystod gwyliau’r ysgol ac wrth fy modd yn gwneud hynny. Rwy’n mwynhau bod yn ymarferol a thrwsio problemau. I mi, mae plymio fel datrys pos – mae’n gymaint o foddhad pan fyddwch chi’n ei ddatrys!

“Mae astudio prentisiaeth yn y coleg wedi bod yn wych. Mae wedi fy helpu i fireinio fy nghrefft gan fy mod nid yn unig wedi dysgu gan diwtoriaid hynod dalentog a phrofiadol, ond rwyf hefyd wedi cael profiad gwych o’r holl gystadlaethau anhygoel y maent wedi fy annog i gymryd rhan ynddynt. Mae cymryd rhan ynddynt wedi fy ngalluogi i gwrdd â chymaint o bobl yn y diwydiant ac mae’r tasgau yn y cystadlaethau wedi datblygu fy sgiliau yn fawr.”

Mae tiwtor Ruben yng Ngholeg y Cymoedd, Lee Perry, wedi mynd gyda Ruben ar bob cam o’i daith WorldSkills: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Ruben a’i wylio’n tyfu fel plymiwr ac fel unigolyn. Mae’n rhagorol iddo gyrraedd y cam hwn yn y gystadleuaeth a chael ei enwi’n un o dri phlymwr ifanc gorau Ewrop gyfan a derbyn ei fedal o flaen dros 30,000 o wylwyr yn Gdańsk.”

Mae Ruben yn un o chwech o’r DU a enillodd Fedal Ragoriaeth am gyrraedd safonau o’r radd flaenaf yn EuroSkills 2023. Llongyfarchodd y Gweinidog Sgiliau, Prentisiaethau ac Addysg Uwch Robert Halfon y tîm elit o brentisiaid a gweithwyr proffesiynol ifanc: “Mae cystadlaethau EuroSkills yn darparu cyfle heb ei ail i bobl ifanc dawnus hogi eu sgiliau a dringo’r ysgol gyfleoedd tuag at ddyfodol gwell a mwy disglair.

“Heb os, mae eu gwaith caled, eu penderfyniad, a’u hymroddiad wedi gadael marc ar y llwyfan Ewropeaidd. Mae eu cyflawniadau nid yn unig yn adlewyrchu eu hymrwymiad personol i ragoriaeth ond hefyd yn arwydd o gryfder a gallu gweithlu medrus y DU.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau