Prentisiaid ar y cledrau ar gyfer gyrfa o’r radd flaenaf

Mae myfyrwraig arlwyo wedi dychwelyd o Unol Daleithiau America lle bu’n arddangos ei doniau coginio i bobl ifanc fel rhan o raglen Camp America.

Treuliodd Eloise Powell o Ferthyr Tudful, myfyrwraig 23 oed yng Ngholeg y Cymoedd, ei haf yn Hamptons, Efrog Newydd yn trosglwyddo’i thalentau coginio i bobl ifanc ar ôl ffoli ar waith pobi tra’n gwella o lawdriniaeth ar ei chefn.

Pan oedd hi’n 14 dywedodd y meddygon wrth Eloise bod ganddi scoliosis, crymedd y cefn. Cafodd lawdriniaeth yn 2011 i fynd i’r afael â’r broblem.

Yn ystod ei chyfnod o adferiad, penderfynodd Eloise newid o’i chwrs trin gwallt i astudio coginio proffesiynol yng Ngholeg y Cymoedd ar Gampws Ystrad Mynach.

A hithau wedi mwynhau coginio er yn blentyn bach, mae Eloise nawr yn benderfynol ei bod am addysgu coginio mewn amgylchedd addysg bellach a chymerodd ran ym mhrofiad Camp America i roi sail gadarn iddi weithio gyda phobl ifanc.

Dywedodd Eloise: “Fe wnaeth fy llawdriniaeth fy ysgogi yn fy ngyrfa. Nawr, dw i’n benderfynol o ennill profiadau yr hoffwn yn fawr i’w defnyddio yng Nghymru yn y dyfodol.

“Bu Coleg y Cymoedd mor gefnogol ac mae’r cwrs wedi rhoi hyder i mi fod yn fwy dyfeisgar yn fy nghoginio. Dwi am ysbrydoli eraill i weithio’n galed i wireddu eu breuddwydion, rhywbeth wnes i erioed feddwl byddai’n bosibl heb y berthynas sydd gen i gyda fy nhiwtoriaid arlwyo.”

Eloise ydy’r fyfyrwraig arlwyo gyntaf o Goleg y Cymoedd i gael ei derbyn ar raglen Camp America, darparwr sy’n anfon dros 7,000 o bobl ifanc i weithio mewn gwersylloedd ymhob un o 50 talaith America bob blwyddyn.

Bydd y cogydd ifanc yn treulio wyth wythnos yn Efrog Newydd yn dyfeisio ei maes llafur ei hun ac addysgu myfyrwyr sut i ddatblygu eu cogino.

Bu Kelly Jennings, cyn-gydlynydd rhaglen HWB Coleg y Cymoedd sy’n hybu gweithgareddau allgyrsiol, yn helpu Eolise gyda’r broses o wneud cais i Camp America. Dywedodd: “Dwi’n hynod o falch o’r hyn y mae Eloise wedi’i gyflawni ac roedd yn bleser i rannu’r daith i America gyda hi. Mae Eloise wedi bod yn brysur gydag ymrwymiadau eraill o gwmpas y coleg, dod i ben â’i gwaith coleg ac ar yr un pryd cyfoethogi ei bywyd coleg drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ac yn dal wedi llwyddo i sicrhau lle ar raglen Camp America.”

Wrth iddi gwblhau’r paratoadau terfynol cyn mynd i America, dywedodd Eloise ei bod yn teimlo’n gyffrous: “Dw i’n edrych ymlaen fwyaf at goginio gyda phobl ifanc ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arna i i fod yn athrawes yn y dyfodol. Mae diwylliant Efrog Newydd yn wahanol iawn ond yn gyfle oes i mi gael ei brofi a gobeithio y gallaf wneud cymaint ag y galla i tra mod i yno.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau