Rôl allweddol Coleg y Cymoedd wrth roi hwb i Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru

Cafodd myfyrwyr tîm rygbi Coleg y Cymoedd y fraint o gael eu hyfforddi gan hyfforddwyr tîm rhyngwladol De Affrica cyn y gêm fawr yn erbyn Cymru Ddydd Sadwrn.

Daeth hyfforddwyr y ‘Springboks’ i faes hyfforddi Coleg y Cymoedd yn Nhrefforest i arwain sesiwn o sgrymio gyda’r tîm ifanc, gan rannu eu cyngor proffesiynol a’u profiad gyda’r myfyrwyr.

Ymhlith yr arbenigwyr oedd Pieter de Villiers, cyn chwaraewr rhyngwladol Ffrainc a anwyd yn Ne Affrica a’r Albanwr Scott Gray a ddaeth at y Sprinboks yn gynharach eleni i weithredu fel eu hymgynghorydd dadansoddi.

Bu’r tîm o Dde Affrica yn hyfforddi yn Nhrefforest cyn y gêm yn erbyn Cymru a dangosodd yr hyfforddwyr ddiddordeb mewn gweithio gyda thîm Coleg y Cymoedd i arwain sesiwn ar beiriant sgrymio o’r radd falenaf, peiriant y mae disgwyl iddo newid y gêm fodern.

Ymddeolodd de Villiers, yr hyfforddwr sgrymio, ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd yn 2007 ar ôl ennill 69 o gapiau i Ffrainc ac wedi 14 mlynedd o chwarae gyda thîm clwb Stade Francais. Dywedodd: “Rydyn ni wedi cael adborth gan y chwaraeawyr am y prototeip hwn o beiriant sgrymio a dyma’r tro cyntaf i mi ei weld e. Roedden nhw’n grŵp da i weithio gyda nhw ac mae’n amlwg iddyn nhw gael eu hyfforddi’n dda oherwydd maen nhw’n clymu’n dda ac mae lefel eu perfformiad yn uchel.” Mae potensial i’r prototeip hwn sy’n cael ei brofi yng Nghymru newid sgrymio yn y dyfodol.

“Yn ail i chwarae fy hun, mae hyfforddi pobl ifanc oherwydd dw i’n cael llawer o bleser yn rhannu fy ngwybodaeth arbennig o sgrymio gydag eraill a gweld chwaraewyr ifanc yn datblygu a dysgu’r grefft.”

Liam Belcher, 17 oed o Drebanog, ger y Rhondda, ydy capten tîm rygbi Coleg y Cymoedd. Mae Liam yn ei ail a’r flwyddyn olaf yn astudio ar gwrs Chwaraeon Lefel 3 BTEC ac am fod yn hyfforddwr rygbi ar ôl gyrfa o chwarae’r gêm yn broffesiynol. Dywedodd: ”Roedd hi’n fraint fawr i gael rhywun mor brofiadol yn ein hyfforddi ni, yn enwedig gan fod gan Dde Affrica sgrym mor gryf ar y foment. Elwodd y bechgyn o’r sesiwn a dylai hyn ein helpu yn y gemau sydd i ddod.”

Mae tîm Coleg y Cymoedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr addawol o ganlyniad i’r cysylltiad gyda Academi’r Gleision gyda’r bwriad o alluogi chwaraewyr talentog i gyfuno cyflawniadau academaidd a’u cyflawniad ym maes chwaraeon.

Nod yr academi ydy datblygu sgiliau rygbi’r myfyrwyr sydd ar y cwrs ac hefyd sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n academaidd petai gyrfa ym maes rygbi ddim yn cael ei wireddu. Mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwaith, penderfyniad a chael cyfle i weld sut gall gyrfa ym maes hyfforddi fod yn werth chweil a boddhaus. Bydd hyn yn eu helpu i lwyddo yn eu swyddi yn y dyfodol.

Dywedodd Clive Jones, cyfarwyddwr rygbi Coleg y Cymoedd: “Mae ein partneriaeth gydag Academi’r Gleision wedi galluogi’r to nesaf o chwaraewyr rygbi Cymru hyfforddi gydag un o’r timoedd gorau yn y byd ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i hyfforddwyr De Affrica am ymweld â ni.”

Further images available at http://www.flickr.com/photos/colegycymoedd/sets/72157637590780145/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau