Mae rhestr academïau chwaraeon Coleg y Cymoedd yn cynyddu gyda lansio Academi newydd sbon ar gyfer Rygbi’r Gynghrair wedi’i lleoli ar gampws Ystrad Mynach.
Mae egin sêr Rygbi’r Gynghrair yn cael cyfle i hawlio’u lle ar y rhaglen a fydd yn cyfuno hyfforddiant ac addysg amser llawn.
Mark Jones fydd yn rhedeg yr Academi a fydd yn agor ei drysau i’r garfan gyntaf o ddysgwyr ym mis Medi eleni a bydd yn cynnig cyfle i’r chwaraewyr ddatblygu ar y cae ac oddiar y cae drwy gyd-bwyso sesiynau hyfforddi dyddiol gydag astudiaeth lawn amser.
Yn dilyn llwyddiant academïau Rygbi’r Undeb a gynigir gan Goleg y Cymoedd, bydd dysgwyr yn gallu astudio cymhwyster Chwaraeon BTEC Lefel 2 a Lefel 3 fel rhan o’r rhaglen.
Mae’r Academi hon wedi dod i fodolaeth drwy ymrwymiad y ddau bartner i ddarparu amgylchedd ar gyfer Chwaraewyr talentog Rygbi Cynghrair Cymru i dderbyn cymwysterau addysgol a’r hyfforddiant o’r safon uchaf.
Mae’r academi newydd yn atgyfnerthu poblogrwydd chwaraeon ymhellach yn Ne Cymru a bydd yn darparu cyfleusterau hyfforddiant rhagorol ar gyfer chwaraewyr Rygbi’r Gynghrair a chwaraewyr yr academi, cyfleusterau a fydd yn cynnwys campfeydd, caeau hyfforddi bob tywydd a chaeau gwair.
Y gobaith ydy y bydd yr Academi yn gwella safon y chwaraewyr dan 18 oed yn sylweddol, y chwaraewyr hynny fydd y dyfodol i Rygbi’r Gynghrair ar lefel clwb a rhyngwladol yng Nghymru.
Dywedoddd Jonathan Morgan, Cyfarwyddwr y Gyfadran Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd: “Roedd cyfleusterau gwych Coleg y Cymoedd ar gyfer chwaraeon yn gwneud y bartneriaeth hon yn opsiwn posibl i’r coleg ac i Rygbi Cynghrair Cymru.
“Rydyn ni mor gyffrous am hyn a’r cyfle i gynnig llwybr i’r chwaraewyr i mewn i’r gêm broffesiynol ynghyd ag addysg dda. Mae cysyniad o Academi yn hybu dyheadau a safonau uchel ymhlith y myfyrwyr ac rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan ohono.
Dywedodd Mark Jones, Rheolwr Datblygiad Cenedlaethol Rygbi Cynghrair Cymru “Mae’r academi yn gyfle gwych i chwaraewyr ddysgu am ofynion chwaraeon proffesiynol. Gosodir targedau datblygu unigol ar gyfer pob chwaraewr i wella’u cyflwr corfforol, eu sgiliau a’u hymwybyddiaeth dactegol mewn amgylchedd proffesiynol.
Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.
“