Sgiliau iaith Gymraeg yn agor drysau i ddysgwr y Cymoedd

Pan gofrestrodd y dysgwr Coleg y Cymoedd, Owen Bennett, yng nghampws Aberdâr ym mis Medi, ni allai fod wedi dychmygu pa ddrysau y byddai’r cymhwyster yn eu hagor iddo na pha mor gyflym y byddai hynny’n digwydd.

Mae Owen, sy’n wreiddiol o Lanelli ond sydd bellach yn byw ym Mhenderyn, yn mwynhau coginio ac yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y sector Arlwyo a Lletygarwch. Yn ystod ei ymweliad â’r campws a agorodd yn ddiweddar, cafodd y cyfleusterau a gwybodaeth y staff gryn argraff arno a chofrestrodd ar gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 1 yn y Coleg.

Yn ystod y flwyddyn, cafodd Owen gyfle i wella ei sgiliau Cymraeg a Gofal Cwsmeriaid trwy ddilyn cymhwyster gofal cwsmeriaid Cyfrwng Cymraeg – Yr Iaith Ar Waith. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn ffordd sy’n berthnasol i’r pwnc y maent yn ei astudio ac yn eu paratoi ar gyfer y gweithle trwy sicrhau eu bod yn hyderus wrth ddelio â chwsmeriaid.

Yn ffodus i Owen, sylwodd Alison Jones, Pennaeth Datblygiadau’r Gymraeg yn y Coleg, ar ei sgiliau Cymraeg a phan ofynnodd perchennog Caffi Soar iddi, caffi newydd yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr, Canolfan Soar, argymell dysgwr a oedd yn astudio Arlwyo ac a allai hefyd siarad Cymraeg – Owen oedd y dewis amlwg.

Pan ofynnwyd i Owen roedd yn awyddus i ddilyn y cyfle hwn gan ei fod yn sylweddoli y byddai’n rhoi profiad perthnasol yn y sector iddo. Dechreuodd Owen weithio yn gynharach y mis hwn ac mae eisoes wedi datblygu’n yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Dywedodd yr Ymgyrchydd dros y Gymraeg a pherchennog y caffi Jamie Bevan Mae Owen yn weithiwr diwyd ac mae’n amlwg bod y profiad y mae’n ei gael yng Ngholeg y Cymoedd rhoi cryn help iddo wrth baratoi ar gyfer  y byd gwaith. Allwn i ddim ymdopi hebddo – mae’n gaffaeliad i’r tîm a’r busnes “.

Wrth sôn am ei swydd, dywedodd Owen “Dyma gyfle arbennig i ddefnyddio’r Gymraeg a’r sgiliau rwyf wedi eu dysgu ar fy nghwrs Arlwyo yng Nghampws Aberdâr yn y byd gwaith”.

Gan weld manteision gallu siarad Cymraeg ac wrth adysgu Gofal Cwsmeriaid i ddysgwyr fel Owen, ychwanegodd Alison Jones “Rwy’n hynod falch o weld Owen yn gwneud mor dda ac yn cael y cyfle i ddefnyddio ei sgiliau Cymraeg, Gofal Cwsmeriaid ac Arlwyo – mae’n ffefryn ymhlith y staff a’r cwsmeriaid “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau