Sicrwydd o gychwyn disglair i ddysgwraig uchelgeisiol

Mae dysgwraig o Gaerdydd, sydd wedi cyflawni’n wych yn ei hastudiaethau, ymhlith y tri pherson sydd wedi eu derbyn ar gynllun prentisiaeth aruchel gyda chwmni gwasanaethau proffesiynol byd-enwog Deloitte.

Newydd gwblhau ei Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Busnes ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd y mae Imogen Llewellyn, 19 mlwydd oed, a chafodd ei dewis o blith cannoedd o ymgeiswyr a chyrraedd y tri olaf yn ffrwd Caerdydd o Brentisiaethau ‘Brightstart’ cwmni Deloitte. Bydd y cwrs pedair blynedd yn golygu y bydd Imogen, ar ei ddiwedd, yn Gyfrifydd Siartredig cymwysedig.

Ar ôl iddi glywed gyntaf am gynllun Deloitte drwy ffair yrfaoedd, cychwynnodd Imogen ar broses drylwyr o wneud cais, gan fynd drwy brofion personoliaeth, asesiadau rhifedd, cyfweliadau ac yna gwneud cyflwyniad i un o bartneriaid Deloitte. Gyda help ei darlithwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar y daith, dewiswyd Imogen fel un o’r tri phrentis yng Nghaerdydd fydd yn cychwyn ar eu cwrs pedair blynedd ym mis Medi eleni.

O’r dechrau’n deg, caiff Imogen weithio gydag amrediad o gleientiaid o wahanol sectorau a diwydiannau. Fel ei chymheiriaid yn Deloitte, caiff Imogen ddatblygu sgiliau cynghori busnes ac ymgynghori, yn ogystal â dysgu wrth ei gwaith, fydd i gyd yn brofiad gwych iddi wrth i’w gyrfa ddatblygu. Deloitte ydy’r cwmni cyfrifyddion ail-fwyaf yn y byd, ac mae’n cael ei ystyried yn rhyngwladol fel Un o’r Pedwar Mawr”.

Nid yn unig mae gan Imogen le i lawenhau am gael ei dewis ar gynllun ‘BrightStart’ ond mae hi hefyd newydd glywed iddi gyflawni tair gradd Rhagoriaeth* yn ei gwaith yng Ngholeg y Cymoedd. Wrth drafod ei chyfnod yn y coleg, meddai Imogen: “Roedd hi’n ardderchog cael cwpla fy BTEC yng Ngholeg y Cymoedd ac fe fu’r darlithwyr yn wirioneddol gefnogol drwy’r holl amser, yn arbennig drwy gynnig opsiynau addysg uwch i mi heb olygu mynd i brifysgol. Mae yna gymaint o ddewisiadau amgen gwych, megis cynllun ‘BrightStart’. Rwy’n edrych ymlaen at gael seibiant dros yr haf, ond yn awyddus i gychwyn ym mis Medi.”

Drwy gynllun ‘BrightStart’, bydd Imogen yn ennill cyflog tra bydd hi hefyd yn cyflawni cymwysterau proffesiynol fel cyfrifydd ar gwrs wedi ei ariannu’n llawn.

Wrth sôn am gyflawniadau Imogen, dywedodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans: “Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiannau Imogen. Mae hi’n esiampl wych o’r dysgwyr dygn sydd gennym yma yn y coleg. Fel yn achos Imogen, rydyn ni’n annog pob un o’n dysgwyr i archwilio gwahanol opsiynau ym maes addysg uwch, o brentisiaethau i brifysgolion neu hyd yn oed fynd yn syth i waith. Pa bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis, hyderwn bydd y sylfeini fydd wedi eu gosod yng Ngholeg y Cymoedd yn eu cynorthwyo i adeiladu dyfodol disglair a llwyddiannus iddyn nhw eu hunain.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau