O ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, bydd ymwelwyr â champws Nantgarw Coleg y Cymoedd yn gallu ymweld â menter newydd a leolir yn ‘Y Stryd’. Mae’r ‘Siop Godi Y Parth Gwyrdd’ yn fenter newydd a sefydlwyd gan y dysgwyr sy’n astudio ar y Rhaglen Sgiliau Byw’n Annibynnol.
Bydd y siop yn rhoi cyfle cyffrous i’r dysgwyr ddysgu am redeg y busnes a bydd yn cynnig profiad gwaith hanfodol i wella sgiliau cyfathrebu a hyder.
Bydd y siop yn stocio ystod o ddeunydd ysgrifennu, gan gynnwys pennau, pensiliau, prennau mesur, rwberi a phapur ynghyd ag anrhegion bach, cardiau pen-blwydd ac ystod o eitemau crefft wedi’u gwneud â llaw gan y dysgwyr. Trwy gydol y flwyddyn, bydd y dysgwyr yn nodi dyddiadau allweddol e.e. Nadolig, Pasg ac ati ac yn addasu eu stoc i weddu i’r achlysur.
Hefyd, mae’r dysgwyr am gynnig dillad, gan gynnwys yr opsiwn i bersonoli nwyddau fel hŵdis, crysau-t, capiau a llawer mwy.
Dywedodd Sally Begley, Tiwtor Cwrs, ‘Mae’r staff a’r dysgwyr mor gyffrous i weld agoriad y siop godi; mae’n gyfle gwych i’r dysgwyr ennill profiad o weithio mewn siop. Bydd y dysgwyr yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth yn y sector manwerthu pan fyddant yn gadael y coleg. Bydd staff yn bresennol i gefnogi’r dysgwyr ond eu cyfrifoldeb nhw fydd rhedeg y siop. Mae’r dysgwyr wedi bod yn rhan o drafodaethau a phenderfyniadau ynghylch pa eitemau i’w gwerthu a’r costau. Gwnaed y trefniadau munud olaf ac maent yn awyddus i groesawu eu cwsmeriaid cyntaf â€.
Mae Liam Tomlins, sy’n 19 oed ac yn dod o Gaerffili, yn astudio ar y cwrs Porth i Gyflogaeth a bydd yn ymwneud â rhedeg y siop. Mae Liam wedi astudio yn y coleg ers 2017 ac mae’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau wrth weithio yn y siop. Dywedodd Liam “Rwy’n credu ei fod yn syniad reit dda oherwydd rwy’n credu ei fod yn ddechrau da i brofiad gwaith. Dechreuwch yn fach ac yna gweithiwch eich ffordd i fyny.â€