Tîm y Cymoedd rhy gryf i’r ymwelwyr o Seland Newydd

Yn dilyn eu buddugoliaeth ysgubol yn rownd derfynol Cwpan Colegau Undeb Rygbi Cymru, mae tîm Coleg y Cymoedd hefyd wedi maeddu tîm oedd ar ymweliad o Seland Newydd, sef y tim ysgol sy’n cael ei ystyried ymhlith y cryfaf yn y byd.

Wrth wynebu’r ‘enwog ‘haka’ fe wyddai sgwad y Cymoedd fod sialens fawr o’u blaenau. Y gwrthwynebwyr oedd cyn ysgol cyn Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, a’r ysgol oedd Hamilton Boys High School..

Y gêm hon oedd yr olaf ar eu mis o daith yn Iwerddon a Chymru, lle buon nhw’n wynebu Ysgolion Ulster yn Belfast, Coleg Blackrock yn Nulyn ac yna Coleg Sir Gâr.

Ond y Cymoedd oedd yn rhagori ar ddechrau’r gêm gan sgorio gyntaf. Er gwaetha cawodydd trymion, oedd yn gwneud pethau’n anodd ar brydiau, roedd safon y chwarae’n ardderchog gyda symudiadau pert gadwodd y Cymoedd y Cymoedd ar y blaen ar yr egwyl.

Cychwynnodd yr ymwlewyr yn gryf ar ddechrau’r ail hanner gan brofi amddiffyn y Cymoedd, ond gwelwyd taclo cadarn i rwystro’r ymwelwyr rhag rhoi pwyntiau ar y bwrdd.

Pan setlodd y gêm, gwelwyd y Cymoedd yn rhagori o ran meddiant unwaith eto, gan brofi amddiffyn Hamilton. Roedd hyder yn chwarae’r Cymoedd a’r blaenwyr a’r cefnwyr yn cydasio’n dda.

Fodd bynnag, doedd dim ildio ar Hamilton, gan edrych yn beryglus pan oedd y bêl yn eu meddiant. Ond roedd y sgôr terfynol yn adlewyrchiad teg o’r chwarae, gyda’r Cymoedd yn ennill o 44 pwynt i 8 pwynt.

Ar ôl y gêm, meddai Clive Jones, Hyfforddwr y Cymoedd: “Roedd y gêm yn gyfle da i’n bechgyn wynebu tîm teithiol o’r safon hwn ac yr oedd penderfyniad y ddau dîm yn ei gwneud yn ornest hyfryd i’w gwylio i’r cefnogwyr. Rwy’n falch iawn o waith y bechgyn. Wnaethon nhw chwarae fel tîm a doedd gan Hamilton ddim ateb i’n perfformiad cadarn.”

Denodd y gêm sylw swyddogion Gleision Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru, gyda Hyfforddwr Blaenwyr Cyrmu, Robin Mcbryde, a Jason Strange, Hyfforddwr y Tîm dan 20, yn yr eisteddle.

Mae Academi Rygbi Coleg y Cymoedd wedi mynd o nerth i nertha chynyddu mewn nifer dros y chwe mlynedd diwethaf. Mae eisoes wedi cynhyrchu 34 o chwaraewyr rhyngwladol, o blith y rhai dan 18 ac 20. Yr wythnos ddiwethaf, enillodd y tîm ffeinal Cwpan Colegau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, yn Stadiwm y Principality, gan drechu tîm cryf o Goleg Sir Gâr 44-24 i fod yn bencamwyr Rygbi Colegau Cymru am 2016.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau