Teuluoedd yn elwa o Famau’n dychwelyd i addysg

Mae grŵp o famau’r Rhondda wedi elwa o gyrsiau Saesneg a Mathemateg a ddarparwyd gan eu coleg lleol yng nghymuned eu hysgol. 

Mae grŵp penderfynol o famau sydd wedi ymrestru ar gyrsiau Saesneg a Mathemateg Addysg Sylfaenol Oedolion, gyda’r bwriad nid yn unig ar gyfer datblygu eu sgiliau ond hefyd i ddatblygu’r gallu i gynorthwyo eu plant gyda’u haddysg. Mae nifer o rieni wedi goresgyn anawsterau sylweddol er mwyn i’w plant gyflawni eu potensial llawn.

Mae’r bartneriaeth rhwng Ysgol Gynradd Darran Parc a Choleg y Cymoedd wedi galluogi grŵp bychan o rieni gychwyn ar daith i ennill sgiliau a chodi eu hyder mewn Mathemateg a Llythrennedd. Roedd y cyrsiau yn seiliedig ar sefyllfaoedd Mathemateg a Llythrennedd sy’n berthnasol i fywyd go wir, er enghraifft, y Mathemateg sydd ei angen ar gyfer ymchwilio i werthoedd maethol diet.

Mae’r oedolion o ddysgwyr hyd yn oed wedi treulio diwrnod ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd ar ddechrau’r flwyddyn pan wnaed nhw’n ddysgwyr swyddogol! Roedd hyn yn gam pwysig i rai o aelodau’r grŵp oedd wedi cyfaddef nad oedd diddordeb ganddyn nhw mewn addysg. Mae hyder y grŵp wedi codi’n sylweddol dros y misoedd a thiwtoriaid a staff ysgol yn tystio i hynny.

Mae’r grŵp llythrennedd a rhifedd yn parhau i gwrdd yn wythnosol ac ar y cychwyn wedi gweithio i ddatblygu sgiliau sylfaenol ymhob pwnc. Mae hyder y grŵp wedi codi’n sylweddol dros amser ac erbyn hyn wedi ennill cymwysterau ychwanegol ac yn gweithio i gyflawni rhagor.

Dywedodd Clare Jones sy’n rhiant o ddysgwr: “Ymunais â chyrsiau llythrennedd a rhifedd ar ddechrau’r flwyddyn a rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus i helpu fy mab gyda’i waith cartref, mae’r grwpiau’n gyfeillgar iawn a wir dwi’n mwynhau dysgu unwaith eto!”

Dywedodd Karren Hurley, Swyddog Ymglymu Teuluoedd yn Ysgol Darran Parc: “Mae ein teuluoedd yn teimlo’n hollol gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu ac wedi cael hyder i ddatblygu eu haddysg mewn meysydd eraill. Mae ymrwymiad ein grŵp bach o rieni wedi bod yn wych! Mae cyfradd presenoldeb y ddau gwrs wedi bod yn gyson drwy gydol y flwyddyn ac mae ein myfyrwyr hyd yn oed yn edrych ymlaen at ragor o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol newydd. Ar ran ein rhieni o ddysgwyr a’r Ysgol, hoffwn ddiolch yn ddidwyll i diwtoriaid y coleg, Beverley Yeoman a Maureen Potter, sydd wedi ac yn parhau i weithio gyda’n grwpiau. Maen nhw wedi bod yn gynnes, yn groesawgar ac yn hynod o ofalgar yn eu dull o fynd ati.”

Mae rhieni Ysgol Gynradd Glyn Rhedynog wedi gofyn am gyfarwyddyd gan Goleg y Cymoedd ar gyfer helpu eu plant gyda phrosiect ‘Big Write’. Ar ôl cwblhau cwrs wyth wythnos mae pob mam yn llawn syniadau a hyder mewn llythrennedd gan ofyn am ddosbarthiadau Llythrennedd parhaol gan y coleg ar gyfer y mamau i weithio tuag at gymwysterau Lefel 2.

Dywedodd Nancy Harris, Swyddog Dysgu Cymunedol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r mamau yn y ddau brosiect wedi profi nid yn unig nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu ond hefyd bod dysgu yn gallu bod yn hwyl. Drwy roi hyder iddyn nhw fynegi a delio â’u pryderon eu hunain mewn amgylchedd dysgu maen nhw’n hyderus i ddatblygu cynnydd eu plant gartref er mwyn gwella ar yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol.”

Oes diddordeb gyda chi mewn dosbarthiadau Llythrennedd? ‘Dysgwch ddarllen, darllenwch i ddysgu, nôl at y pethau sylfaenol!’ I ddarganfod rhagor, dewch i Ganolfan Adnoddau Hafod Deg, Rhymni Dydd Iau Mehefin 30 am 1.30 – 3.30pm neu ffonio Nancy Harris ar 01443 810128.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau