Tiwtor Uchelgeisiol yn parhau i ddysgu i ennill Teitl Myfyriwr y Flwyddyn

Myfyrwyr yn ddyfarnwyr yn agoriad Canolfan Chwaraeon Elite newydd

Gwahoddwyd dysgwyr o Goleg y Cymoedd i wneud gwaith o bwys wrth i werth milynau o bunnau o Adnoddau newydd Academi Elite Caerffili gael eu hagor yn swyddogol gerllaw campws y coleg yn Ystrad Mynach.

Agorwyd yr adnoddau newydd yn swyddogol yn ddiweddar gyda diwrnod o weithgareddau chwaraeon a gwahoddwyd y dysgwyr i arddangos eu sgiliau fel hyfforddwyr a dyfarnwyr nifer o sesiynau i blant iau o wahanol glybiau chwaraeon.

Mae’r Ganolfan Chwaraeon Elite gwerth £7 miliwn wedi agor yn Ystrad Mynach ar safle’r hen ysbyty, dafliad carreg o gampws y Coleg yn Ystrad Mynach. Cynhaliwyd nifer o ornestau rygbi a phêl-droed yn ystod y dydd gyda dysgwyr y Coleg yn cymryd rhan weithredol yn y ddwy gamp.

Agorwyd Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn swyddogol gan Hyfforddwr Tîm Rygbi Cymru, Warren Gatland, a Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths AC, ac roedd cyfraniad dysgwyr Coleg y Cymoedd yn rhan hanfodol o’r gweithgareddau fu’n digwydd yn ystod y diwrnod.

Yn ôl y Pennaeth Chwaraeon, Neil Smothers: Roedd hi’n hyfryd gweld fod ein dysgwyr wedi eu gwahodd i fod yn gymaint rhan o agoriad yr adnoddau newydd. Bu’n brofiad da iddyn nhw ac yn un wnaethon nhw ei wir fwynhau. Mae’n dysgwyr yn rhai gwir dalentog a gwych o beth oedd iddyn nhw gael cyfle i arddangos yr hyn allen nhw ei wneud.”

Roedd y gwahoddiad yn brawf o’r berthynas gadarn sydd rhwng y coleg a datblygiad chwaraeon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, perthynas gafodd ei hatgyfnerthu pan gyflawnodd cyn-fyfyriwr, Tom Axenderrie, ei gymwysterau Lefel 3 mewn Chwaraeon yn Ngoleg y Cymoedd yr haf diwethaf ac yna cael swydd gyda Datblygiad Chwaraeon CBSC.

Yn y Llun: Myfyrwyr Blwyddyn 1 Diploma BTEC Lefel 3 (o’r chwith): Alex Jame, Evan Summer, Lewis Bressington.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau