Digwyddiadau Agored
Darllen Mwy
Mae darpar ddylunwyr dillad o Goleg y Cymoedd wedi bod yn arddangos eu doniau mewn sesiwn tynnu lluniau ar thema ‘James Bond’ ar gampws Nantgarw.
Fel rhan o’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Creu Gwisgoedd i Lwyfan a Sgrîn, bu’r dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn torri patrymau ar gyfer menywod a dynion, torri ac arwisgo model manecwin yn ogystal â dysgu technegau teilwra a’u defnyddio.
Gofynnwyd i’r dysgwyr ganfod aelod o staff oedd yn fodlon modelu’r dilladau ac yna wynebu’r her a osodwyd, gan gynhyrchu canlyniadau gwirioneddol anhygoel.