Enillwyr rhaglen bobi boblogaidd yn rhannu eu harbenigedd â dysgwyr coleg mewn dosbarth meistr coginio

Mae dau gogydd crwst proffesiynol a gafodd eu coroni’n enillwyr rhaglen bobi boblogaidd, wedi dychwelyd i’w cyn-goleg i rannu eu harbenigedd coginio.

Curodd Michael Coggan ac Andrew Minto, a oedd ill dau yn gweithio fel cogyddion crwst i Gin a Bake ym Mae Caerdydd, rai o gogyddion proffesiynol gorau’r wlad, gan ennill y rhaglen Bake Off: The Professionals ar Channel 4.

Ar ôl cael eu henwi’n dîm patisserie gorau’r wlad, mae’r ddau gogydd wedi dewis dychwelyd i’r coleg lle dechreuon nhw eu gyrfaoedd anhygoel i drosglwyddo eu sgiliau a’u gwybodaeth i egin gogyddion Coleg y Cymoedd.

Ymunodd y ddeuawd â’r actor a’r canwr, Wynne Evans, ar gyfer lansiad swyddogol bwyty a chyfleuster hyfforddi newydd y coleg yn y Rhondda, sef Colliery-19.  Torrodd Mr Evans y rhuban i nodi’r agoriad ochr yn ochr â staff, dysgwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach.

Fel rhan o’r dathliad, addysgodd Michael ac Andrew ddysgwyr y cwrs Patisserie a Melysion Lefel 3 am greu pwdinau a fyddai’n deilwng o’r Bake Off. Addysgodd y cogyddion dechnegau ar sut i greu pwdinau ac addurniadau bwrdd, o dymheru siocled i greu garneisiau.

Mae bwyty newydd Coleg y Cymoedd, Colliery 19, bellach ar agor i’r cyhoedd bob nos Lun ac amser cinio dydd Iau. Gall gwesteion flasu’r creadigaethau hyn fel rhan o’r fwydlen o brydau bwyd a goginir yn ffres ac a weinir gan ddysgwyr lletygarwch ac arlwyo’r coleg.

Meddai Michael: “Mae dychwelyd i fy hen goleg a’r gymuned leol y cefais fy magu ynddi wedi inni gael ein coroni’n dîm patisserie gorau’r wlad yn deimlad anhygoel.

“Rydym ni wrth ein bodd yn cael trosglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth rydym ni wedi’u hennill i gogyddion a gwneuthurwyr patisserie ifanc uchelgeisiol yn y man lle gwnaethon ni gychwyn ar ein taith goginio ein hunain.”

Ar ôl cwblhau eu cymhwyster mewn Coginio Proffesiynol yng Ngholeg y Cymoedd, aeth Michael ac Andrew ymlaen i weithio mewn cyfres o sefydliadau pum seren, gan gynnwys Gleneagles Hotel yn yr Alban a St David’s Hotel yng Nghaerdydd, cyn ymuno â Gin a Bake. Mae Michael bellach yn gweithio fel Prif Gogydd Crwst Pettigrew Bakery ac mae Andrew bellach yn gweithio fel Prif Gogydd Crwst Gin and Bake.

Ychwanegodd Andrew: “Rydym ni’n gobeithio y bydd ein dosbarth meistr yn annog dysgwyr yn y coleg i deimlo eu bod yn cael eu cymell a’u hysbrydoli i barhau i ddilyn eu huchelgeisiau eu hunain yn y maes.

“Hoffem ddychwelyd i’r campws eto yn y dyfodol a pharhau i rannu ein sgiliau a’n harbenigedd gyda’r genhedlaeth o gogyddion crwst a phobyddion proffesiynol yn Ne Cymru yn y dyfodol.”

Gan fod y diwydiant lletygarwch yn wynebu heriau ar hyn o bryd o ran recriwtio a galw am staff medrus, mae’r dosbarth meistr gyda’r ddau gogydd, ochr yn ochr ag agor bwyty Colliery 19 a chyfleuster hyfforddiant coginio masnachol newydd, yn rhan o ymroddiad y coleg i roi sgiliau a phrofiad i’w ddysgwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Er mwyn dathlu hanes pyllau glo’r rhanbarth, mae’r bwyty ar gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd yn cynnwys addurniadau yn ymwneud â’r pyllau glo ond gyda thro modern. Bydd yr holl fwyd yn cael ei baratoi a’i weini gan ddysgwyr sy’n astudio cyrsiau arlwyo ar bobl lefel, o’r cyrsiau rhagarweiniol i gymwysterau uwch, dan arweiniad cogyddion a staff blaen tŷ proffesiynol.

Dywedodd Gethin Thomas, dysgwr Patisserie a Melysion yn y coleg: “Rwy’n gwerthfawrogi fy mod yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarth meistr gan gogyddion proffesiynol yn y maes, yn enwedig gan gogyddion llwyddiannus a ddechreuodd yn y coleg hefyd.

“Bydd y sgiliau a’r wybodaeth maen nhw wedi’u haddysgu inni yn ogystal â’r profiad gwaith ymarferol ym mwyty a chyfleuster hyfforddi Colliery 19 yn amhrisiadwy pan ddechreuaf fy ngyrfa fy hun yn y diwydiant.”

Dywedodd Tracey Evans, Pennaeth Ysgol Gwallt, Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo yn y coleg: “Mae cael Andrew a Michael yn dychwelyd i’r coleg i ddysgu sgiliau patisserie ar lefel diwydiant yn brofiad anhygoel i’n dysgwyr.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd y sesiynau dosbarth meistr hyn yn helpu dysgwyr i deimlo’n barod i ymgymryd â rôl yn y diwydiant a rhagori yn eu gyrfaoedd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau