Y Coleg yn arbrofi gyda Bwyd Fegan gyda chogyddion proffesiynol

Cyhoeddodd Coleg y Cymoedd gynlluniau i agor Canolfan Ragoriaeth gwerth miliynau ar gyfer Hyfforddiant Rheilffyrdd yn Nantgarw a bydd hyn yn golygu bod cenhedlaeth nesaf o weithwyr rheilffyrdd yng Nghymru yn mynd i dderbyn addysg o’r radd flaenaf.

Mae Coleg y Cymoedd ar y cyd â ‘McGinley Support Services’ yn bwriadu cynnig Rhaglen newydd gyffrous sef Prentisiaeth Rheilffyrdd o fis Medi 2014.

Bydd buddsoddiad o £2.2 miliwn i greu Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Rheilffyrdd ynghyd â thrac rheilffordd llawn maint a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i oedolion ifanc weithio yn y diwydiant rheilffyrdd.

Datblygwyd y rhaglen yn dilyn cyhoeddiad gan Network Rail am Raglen Fframwaith Trydaneiddio gwerth £2 biliwn dros y saith i ddeg mlynedd nesaf, sy’n golygu gwelliannau ar draws Cymru a gweddill y DU.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd 48 o brentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan McGinley yn dilyn Prentisiaeth mewn Peirianneg Rheilffyrdd; cymhwyster Lefel 2 a fydd yn eu galluogi i hyfforddi mewn amgylchedd gwaith realistig.

Bydd y cyfleuster pwrpasol hwn ar Gampws Nantgarw yn golygu y bydd unigolion sy’n chwilio am waith cyflogedig yn gallu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector rheilffyrdd; bydd hefyd ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector heb efallai feddu ar gymwysterau neu sy’n chwilio am gymwysterau cysylltiol fel trafod â llaw a iechyd a diogelwch.

Hefyd mae nifer o sgiliau trosglwyddadwy megis gwaith adeiladu, crefftau a chrefftau gwaith trydan a all fod yn rhai i’w trosglwyddo i faes gwaith rheilffyrdd a bydd y cyfleuster hyfforddi newydd hwn yn help i gyflawni hynny.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd “Dw i wrth fy modd gyda’n partneriaeth â McGinley i gynnig y Rhaglen Prentisiaeth Rheilffyrdd. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli cenhadaeth y Coleg i atgyfnerthu’r cynoedd drwy ddarparu addysg, sgliau a chyfloedd hyfforddiant rhagorol.

“Bydd y profiad ymarferol a gaiff y prentisiaid yn y coleg yn rhoi’r sgiliau iddyn nhw i’w defnyddio yn eu gweithle. Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn un o gyflogwyr pwysicaf yr ardal ac mae’r ffigyrau’n dangos bod prinder sylweddol o grefftwyr ar hyn o bryd a rhagwelir hyn hefyd i’r dyfodol, ar hyd a lled y sector rheilffyrdd. Bydd ein cyfleuster newydd yn hwyluso’r hyfforddiant ac uwchraddio sgiliau’r gweithwyr rheilffyrdd cyfredol a’r darpar genhedlaethau o weithwyr rheilffyrdd”.

Bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal sesiwn hysbysu ar Gampws Nantgarw Ddydd Mercher Gorffennaf 16 i roi cipolwg ar y rhaglen ac ateb unrhyw gwestiwn. Ffoniwch 01443 663239/663137 i neilltuo’ch lle. (Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed erbyn Rhagfyr 2014 – Gofyniad y Sector).

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau