Mae Coleg y Cymoedd wedi ennill Lefel Platinwm†yng Ngwobrau Cynllun Teithio Cymru am ei waith yn datblygu a chynnal strategaeth yn hybu arferion teithio cynaliadwy ar gampysau’r coleg.
Cydnabuwyd Cynllun Teithio Coleg y Cymoedd sy’n ceisio annog staff a dysgwyr i ddefnyddio dulliau amgen o deithio megis seiclo, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir, am gynnal safonau rhagorol yn ei gynlluniau teithio.
Mae’r Cynllun Teithio yn cynnwys cludiant o gwmpas y campws newydd yng nghanol Aberdâr sy’n gwneud defnydd o’r cysylltiadau ardderchog o ran bysys a threnau. Mae’r ffaith bod y safle mor agos at orsaf rheilffordd Aberdâr, Ysgol newydd Aberdâr a chanol y dref yn darparu mynediad gwell o lawer ar gyfer dysgwyr a staff i gludiant cyhoeddus a chysylltiadau cymudo o’r ardaloedd cyfagos.
Mae Cynllun Teithio’r coleg a enillodd y safon platinwm hefyd wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol yn hybu cymudo cynaliadwy a chreu gwell cyfleusterau seiclo ar gyfer defnyddwyr.
Mae strategaeth a chynllun y Coleg yn cael eu datblygu a’u monitro gan grŵp o staff y coleg ar y cyd â phartneriaid allweddol yn cynnwys Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru
Dywedodd David Brookes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni wrth ein boddau i ennill y safon Platinwm am ein Cynllun Teithio, y safon uchaf gall sefydliad ei ennill. Prin ydy’r sefydliadau sydd wedi cyflawni hyn.
“Mae’r dyfarniad yn gadarnhad o’n hymdrechion i leihau ein hôl traed carbon a chynorthwyo iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr. Mae’r Coleg yn hynod falch o fod wedi ennill y Wobr Teithio Platinwm a bydd yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r staff, y dysgwyr a’r partneriad allweddol.
Mae’r staff a’r dysgwyr wedi bod yn gyfrwng i gyflawni’r wobr hon; er mwyn llwyddo rhaid i bawb gymryd rhan yn y cynlluniau. Rydyn ni bob amser yn awyddus i gael syniadau gan staff a dysgwyr am y Cynllun Teithio.â€
Mae arolygon ar draws campws Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach wedi golygu bod y coleg yn deall yn well sut y gall gynorthwyo unigolion ymhlith y staff a’r myfyrwyr i ddefnyddio dulliau cludiant cynaliadwy.
“