Gan weithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, mae Y Prentis, yn recriwtio wyth o brentisiaid leinio sych a fydd yn ymgymryd â chwrs brentisiaeth ddwy flynedd newydd o fis Ionawr.
Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn gweld twf blynyddol o 4.6% ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf. Er mwyn cefnogi’r twf hwn, bydd angen mwy na 4,000 o weithwyr adeiladu arbenigol – sy’n cynnwys arbenigwyr leinio sych – i gwrdd â galw’r diwydiant.
Mae Y Prentis wedi bod yn cydweithio’n agos â Choleg y Cymoedd a chontractwyr lleol i gyflwyno cwrs prentisiaeth newydd a fydd yn helpu i gwrdd â’r galw am weithwyr leinio sych mwy medrus yn y dyfodol. Bydd y cwrs dwy flynedd hwn, sy’n dechrau ym mis Ionawr, yn rhoi cyfle i bobl ennill y profiad gwaith angenrheidiol wrth dreulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg yn astudio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Systemau Mewnol a NVQ Lefel 2 mewn Leinio Sych. Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod o bynciau; gan sicrhau bod myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau adeiladu a’r wybodaeth weithredol sydd eu hangen arnynt i weithio fel leiniwr sych. Byddant hefyd yn dysgu am iechyd, diogelwch a lles yn y diwydiant adeiladu ac yn ennill dealltwriaeth o wahanol dechnolegau adeiladu.
Meddai Darryl Williams, Rheolwr Rhaglen yn Y Prentis: Mae’n wych ein bod yn gallu ehangu i’r fasnach leinio sych mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd a chontractwyr lleol i ddarparu’r prentisiaethau hyn. Mae galw cynyddol am lafur mwy medrus yn y diwydiant, felly rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt a manteisio ar y cyfleoedd swyddi hyn. “Cynhelir prentisiaethau ar draws rhanbarth De-Ddwyrain Cymru gyda chontractwyr megis ISG, Manorcraft a Richard Kemble Ceilings.
Gwybodaeth am y cwrs
Cwrs dwy flynedd yw’r brentisiaeth a fydd yn cychwyn ddydd Gwener 25 Ionawr 2019. Bydd myfyrwyr yn treulio pedwar diwrnod ar y safle ac un diwrnod yr wythnos yng nghampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd yn astudio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Systemau Mewnol ac NVQ Lefel 2 mewn Leinio Sych. Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod o bynciau, gan gynnwys:
• Gorffen cymalau leinin sych
• Gosod rhaniadau leinin sych a systemau nenfwd tanio metel
• Gosod systemau rhaniadau perchnogol
• Gosod systemau lloriau mynediad uwch
• Gosod systemau nenfwd crog
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar y cwrs, a hoffech sicrhau prentisiaeth gyda’r Y Prentis, llenwch ffurflen gais ar ein gwefan. www.yprentis.co.uk/students-colleges
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch dîm Y Prentis ar 0800 9753 147 neu anfonwch e-bost at enquiries@yprentis.co.uk
“