Mae dosbarth gofal plant yng Ngholeg y Cymoedd yn dathlu ar ôl ennill y graddau uchaf am brosiect ymchwil wedi ei farcio’n allanol.
Daeth y newydd fod naw o ddysgwyr ar gampws Rhondda wedi ennill wyth gradd A ac un A* am brosiect ymchwil heriol.
Roedd y prosiect ymchwil 5000 gair yn astudio cymorth i blant a phobl ifanc oedd yn mynd drwy newidiadau a throsglwyddiadau, lle mae disgwyl i ddysgwyr arddangos gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i gefnogi plant mewn amgylchiadau amrywiol.
Arweinwyd y prosiect ymchwil llwyddiannus gan diwtoriaid Lefel 3 Gofal Plant, Dysgu a Datblygu Coleg y Cymoedd a chafodd ei farcio’n allanol gan gorff dyfarnu Cache.
Yn ôl Ceara Harkin, 19 oed, o Ynyshir: “Alla i ddim diolch digon i fy nhiwtoriaid am yr holl help a chefnogaeth. Dydw i rioed o’r blaen wedi cael gradd A cyn bod ar y cwrs hwn a doeddwn i ddim yn credu yn fy hunan yn academaidd. Roedd y dasg ymchwil yn wir ddiddorol ac fe helpodd hyn fi i benderfynu mai dyma’r yrfa i mi.â€
Dywedodd y tiwtoriaid Gofal Plant, Kelly Tanner a Tracey Sully: “Rydyn hi’n hynod falch o’r holl ddosbarth am eu camp, maen nhw wedi gweithio’n galed iawn ac yn haeddu’r graddau ardderchog maen nhw wedi eu derbyn. Gobeithio bydd hyn yn arwain i bob ohonyn nhw lwyddo ymhellach yn academaidd ac yn eu gyrfa, ym mha bynnag faes o ofal plant byddan nhw’n ei ddewis.â€
Ynghyd â’r prosiect ymchwil, ers iddyn nhw gychwyn ar y cwrs, mae’r dysgwyr hefyd wedi bod yn treulio amser priodol ar leoliadau profiad gwaith, yn cynllunio a chynnal gweithgareddau i blant, ac yn arsylwi ar ddatblygiad plant.
Mae’r cwrs Diploma Lefel 3 Gofal Plant, Dysgu a Datblygu yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sgiliau ymarferol, wedi ei gefnogi gan yr elfennau damcaniaethol, gan roi profiad go iawn o weithio mewn amrediad o sefydliadau gofal plant. I ganfod mwy am hyn, ewch ar y wefan: /courses/subject-areas/care-and-childhood-studies.aspx