Ymweliad barnwr yn ysbrydoli myfyrwyr y gyfraith

Onibai eu bod wedi troseddu dydy myfyrwyr ddim yn cael cyfle yn aml i siarad â barnwr.

Ond cafodd darpar gyfreithwwyr o Goleg y Cymoedd y cyfle i gwrdd â Sian Davies, Barnwr Cyflogaeth a chael cipolwg ar fyd cymhleth y farnwriaeth.

Fe rhan o’i rôl fel Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol, treuliodd y Barnwr Davies y prynhawn yn trafod gyrfa yn y farnwriaeth gyda 21 o fyfyrwyr sy’n astudio Lefel A yn y Gyfraith ar gampws Nantgarw.

Cymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb fywiog a chyflwyno darlith ar Dribiwnlys Cyflogaeth, ei le yn Llysoedd EM a’r Gwasanaeth Tribiwnlys, swyddogaeth y barnwr a sut mae mynd yn farnwr.

Ynmghyd â’i rôl fel Barnwr Tribwinlys Cyflogaeth, mae’r Barnwr Davies yn un o’r 100 o Farnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol sydd yn bodoli ar draws Cymru a Lloegr. Eu gwaith ydy annog y bobl broffesiynol y gyfraith o blith grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ystyried gyrfa yn y farnwriaeth.

Rhoddodd y Barnwr Davies syniad i’r dysgwyr o’r hyn ydy Tribiwnlys Cyflogaeth gan gyflwyno enghreifftiau o achosion y buodd hi’n ymwneud â nhw, achosion yn delio ag ystod o faterion cyfraith cyflogaeth, gan gynnwys diswyddo annheg, anghydfod cyflog ac achosion o wahaniaethu.

Dywedodd Jacob Lewis , myfyriwr Lefel A sydd â’i fryd ar fynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt: Roedd yn wych cael clywed barnwr yn siarad am rôl hanfodol tribiwnlysoedd wrth helpu pobl i gael cyfiawnder ond yn fwy pwysig, sut y gallwn ddod yn rhan o’r farnwraieth a fu yn y gorffennol yn broffesiwn eitha caeëdig.

“Gwn, diolch i’r ymweliad hwn bod nifer o’r myfyrwyr yn bresennol nawr yn ystyried gyrfa yn yr agwedd hon o fyd y gyfraith, rhywbeth na fydden nhw wedi, o angenrheidrwydd ei ystyried o’r blaen.

Dywedodd y Barnwr Davies: “Roedd yn bleser cwrdd â myfyrwyr a darlithwyr y Gyfraith yng Ngholeg y Cymoedd. Efallai bod myfyrwyr yn teimlo nad ydy barnwyr yn “bobl fel fi”, ond ces i fy addysg mewn ysgol y wladwriaeth a gobeithio bod fy ymweliad wedi chwalu rywfaint ar y camdybiaeth sydd gan bobl o bwy ydy barnwyr a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.”

Newydd ddod yn Farnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol y mae’r Barnwr Davies, rôl sy’n golygu gwneud cysylltiadau rhwng y farnwriaeth a’r gymuned ehangach. Y syniad yn y pen draw ydy bod y farnwriaeth yn datblygu’n un fwy amrywiol, ac yn fwy cynrychioladol o’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Bu’r Barnwr Davies yn Farnwr Tribiwnlys Cyflogaeth ers 5 mlynedd a chyn hynny roedd yn bartner mewn cmni cyfreithiol yng Nghaerdydd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau