Yr Athro Julien Baker PhD, cyn ddysgwr yng Ngholeg y Cymoedd, yn ennill gwobr aur

Mae staff a dysgwyr Coleg y Cymoedd yn dathlu wedi i gyn-fyfyriwr, Yr Athro Julien Baker, dderbyn Dyfarniad Aur Cymdeithas y Colegau mewn seremoni yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiant cyn-fyfyrwyr colegau addysg bellach ac yn cydnabod y swyddogaeth hanfodol mae’r colegau’n chwarae wrth adeiladu sylfeini gyrfaoedd llwyddiannus.

Roed staff a dysgwyr o Goleg y Cymoedd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar Fehefin 10fed, lle derbyniodd Yr Athro Baker Wobr Aur yr ‘AoC’ gan Yr Arglwydd Willis o Knaresborough.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd: Yn amlwg, rhoddodd y coleg gyfle i mi fynd i brifysgol a gwireddu fy uchelgais. Mae cronfa o dalent academaidd ar hyd a lled y DU sy’n blodeuo’n ddiweddarach na rhai o’r oedran 16 i 18 traddodiadol, sy’n mynd ymlaen i gael addysg prifysgol drwy’r llwybrau mwy traddodiadol.

“Mae colegau Addysg Bellach (AB) nid yn unig yn darparu addysg alwedigaethol ardderchog, ond hefyd yn cynnig persbectif/llwybr traddodiadol addysgol sy’n cynnwys mecanwaith i academyddion traddodiadol a rhai gwahanol i hynny i wneud yn fawr o’u potensial a gwireddu eu datblygiad academaidd cyflawn.”

Aeth Yr Athro Baker, wnaeth gwblhau rhaglen brentisiaeth blwyddyn yn hen Goleg Rhondda ym 1971, ymlaen i wneud prentisiaeth mewn peirianneg fel gwneuthurwr offer gyda chwmni FSG Ltd. Gadawodd ei brentisiaeth heb ei gorffen ym 1973 a mynd ymlaen i Goleg Technegol Pontypridd i astudio TGAU Iaith Saesneg a Chelf.

Ar ôl gweithio mewn diwydiant am rai blynyddoedd, penderfynodd newid gyrfa a dychwelyd i Goleg Technegol Pontypridd i wneud BTEC mewn Astudiaethau Adeiladu gyda pheirianneg sifil ar lefelau dau a thri. Aeth ymlaen i Athrofa Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a graddio gyda BA Anrh mewn Gwyddor Ymarfer Corff ym 1988. Yna cafodd MSc mewn Gwyddor Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough ym 1989, a PhD mewn Ffisioleg Dynol ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2000 a Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Gorllewin yr Alban yn 2013.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Baker yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn y Sefydliad Ymarfer Corff Clinigol ym Mhrifysgol Gorllewin yr Alban. Ymhlith ei feysydd ymchwil cyfredol mae’r defnydd o fodelau ymarfer dwys mewn rheolaeth o glefyd cardio-fasciwlar, clefyd siwgr a gordewdra.

Ynghyd â’r Athro Baker, roedd Coleg y Cymoedd wedi enwebu Calum Haggett fel dysgwr sydd wedi arddangos addewid mewn maes cyffelyb i dderbyn gwobr ‘Darpar Seren’ Cymdeithas y Colegau. Mae Calum (18) yn astudio Lefel A mewn Bioleg, Mathemateg a Ffiseg yn y coleg, tra hefyd yn gapten timau Rygbi’r Undeb y grwpiau oedran o Gymru, a bu’n teithio De Affrica’n ddiweddar fel capten Sgwad Cymru Rygbi’r Undeb dan 18 oed.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau