Byddwch yn astudio ystod o bynciau megis Profi Ffitrwydd a Hyfforddiant, Datblygu Ffitrwydd Personol, Chwaraeon Ymarferol; Anatomi a Ffisioleg ar gyfer Chwaraeon; Effaith Ymarfer ar Systemau’r Corff; Anafiadau mewn Chwaraeon; Cynllunio ac Arwain Gweithgareddau Chwaraeon a Chynllunio a Chynnal Digwyddiad Chwaraeon.
Bydd angen 4 TGAU graddau A* - D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg neu gyfwerth neu Diploma Lefel 1 BTEC mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus..
Cewch eich gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad hwn asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Er mwyn cyflawni Diploma Lefel 2 mewn Datblygiad Chwaraeon, rhaid i chi gwblhau ystod o asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig. Asesir eich sgiliau ymarferol, holi ar lafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Bydd rhaid i chi hefyd gwblhau arholiadau sy’n cae; eu marcio’n allanol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, ac ennill gradd teilyngdod, gallech symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon. Gallech hefyd wneud cais am swydd mewn nifer o feysydd y diwydiant chwaraeon megis mewn canolfan hamdden neu hyfforddwr chwaraeon.
Purchase of Kit and/or Education Trips is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied. A tailored individual package will be developed for you depending on which course you have chosen