Cewch eich cyflwyno i'r wybodaeth sydd ei hangen i weithio mewn ysgol neu goleg.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys 11 uned orfodol sy'n trafod pynciau fel; datblygiad plant a phobl ifanc, diogelu lles plant a phobl ifanc, cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol ac ysgolion fel sefydliadau, dulliau asesu ayb. Bydd gofyn ichi ennill profiad mewn lleoliad ysgol.
CACHE L2 Cefnogi Addysgu a Dysgu neu 5 TGAU Gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg). Yn ogystal â gwiriad DBS. Bydd profiad bywyd a chymwysterau eraill yn cael eu hystyried.
Caiff unedau eu hasesu trwy gyfrwng tasgau ysgrifenedig ac ystod o asesiadau mewn amgylcheddau gwaith go iawn
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus byddwch yn derbyn Tystysgrif Lefel 3 CACHE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael gwaith mewn ysgol.