Yn dilyn llwyddiant y prosiect murlun ‘Cymreictod’ ar gampws Nantgarw’r coleg yn gynharach yn y flwyddyn, gwahoddodd y coleg Siôn Tomos Owen (artist a chyflwynydd teledu o Dreorci) yn ôl i weithio gyda grŵp arall o ddysgwyr, y tro hwn ar Gampws y Rhondda.
Mae’r prosiect, a noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhan o nod ehangach i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws colegau AB, gan annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Bu’r dysgwyr sy’n astudio ar gwrs Llwybrau 3 ar y campws yn gweithio gyda Siôn dros chwe wythnos o weithdai dwyieithog, i ddatblygu murlun ar gyfer ffasâd allanol bwyty Colliery 19.
Yn ystod y gweithdai rhannodd y darpar artistiaid eu syniadau i greu murlun a oedd yn adlewyrchu treftadaeth yr ardal ac a oedd yn cyd-fynd â thema Colliery 19, yn unol â chais yr adran Lletygarwch ac Arlwyo. Unwaith y byddai’r murlun wedi’i orffen byddai’n cael ei osod mewn lle amlwg ar wal allanol y bwyty, i’w fwynhau gan staff, dysgwyr, ymwelwyr a’r gymuned.
Wedi’u hysbrydoli gan Siôn, roedd y dysgwyr yn awyddus i drafod eu barn ar yr hyn yr oedd Cymru a’r Gymraeg yn ei olygu iddynt a sut y byddent yn portreadu hynny yn eu murlun. Yn fuan trodd eu syniadau yn ddelweddau lliwgar, a oedd yn procio’r meddwl. Defnyddiwyd y delweddau hyn wedyn gan Siôn i greu darn digidol beiddgar yn cyfleu ‘Dyn drwy’r oesoedd’ – gyda phwyslais ar symud i ffwrdd o’r gyflogaeth draddodiadol sy’n gysylltiedig â’r ardal tuag at ddyfodol disglair mewn llwybrau galwedigaethol megis arlwyo a lletygarwch.
Dywedodd Lois Roberts, Rheolwr y Gymraeg Coleg y Cymoedd: Mae’r murlun gorffenedig ar ochr y bwyty yn edrych yn anhygoel. Mae dysgwyr Llwybrau 3 wedi gweithio mor galed i gynhyrchu gweithiau celf sydd wir yn dal Cymreictod yr ardal leol a sut mae hynny’n berthnasol i’w bywydau eu hunain. Diolch yn fawr iawn i Siôn am greu darn mor eiconig o gelf a diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu’r prosiect.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Siôn: “Roeddwn wrth fy modd yn dychwelyd i Goleg y Cymoedd i weithio gyda’r grŵp ar Gampws y Rhondda. Rwy’n mwynhau gweithio gyda dysgwyr ar ddatblygu murluniau ac mae dysgwyr y Rhondda wedi bod yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd i bortreadu eu syniadau. Mae hi wedi bod yn brosiect diddorol ac rydw i wrth fy modd gyda’u gwaith gorffenedig. Rwy’n gobeithio bod y dysgwyr yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni”.