Wrth graidd y rhaglen mae pedair piler dysgu: • Iechyd a Lles • Cynhwysiant Cymunedol • Byw’n Annibynnol • Cyflogadwyedd. Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn rhan allweddol o ddysgu, gyda chyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn wedi’u hymgorffori ym mhob un o’r pedwar piler.
Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu cymedrol/anableddau a/neu anawsterau cymdeithasol/ymddygiadol. Byddai'r rhan fwyaf o ddysgwyr fel arfer yn gweithio ar lefel mynediad 2/3 Rhifedd a Llythrennedd
Yn dilyn asesiadau gwaelodlin cychwynnol, gan ddefnyddio dull person-ganolog, gosodir targedau unigol i ddysgwyr. Bydd tiwtoriaid cwrs yn darparu cefnogaeth i olrhain ac adolygu pob targed gan sicrhau cynnydd tuag at gyrchfannau tymor hir.
Efallai y bydd rhai dysgwyr yn gallu symud ymlaen i interniaethau â chymorth neu raglenni AB eraill yn y coleg.