Byddwch yn astudio: Gofal croen wyneb, cwyro, triniaethau blew amrannau ac aeliau, triniaethau dwylo, triniaethau traed, gofal cleientiaid a iechyd a diogelwch fel unedau gorfodol. Er mwyn gwella'ch cyflogaeth a'ch astudiaethau ymhellach, rydyn ni wedi dewis unedau gorfodol ychwanegol yn ofalus gan gynnwys technegau chwistrellu lliw haul, dyletswyddau derbynfa ac arddangos stoc i hyrwyddo gwerthiant.
Byddwch yn astudio Anatomeg a Ffisioleg ochr yn ochr â'r unedau ymarferol hyn. Mae arholiadau a osodir yn allanol ar gyfer pob un o'r unedau hyn. Hefyd, byddwn yn cynnig cyfleoedd i chi wella'ch sgiliau ymhellach gyda chyrsiau ychwanegol dewisol a fydd yn dibynnu ar eich cynnydd a'ch datblygiad. Cynhelir eich holl astudiaethau mewn salon go iawn a bydd disgwyl ichi weithio ar gleientiaid allanol, ac ar eich gilydd. Bydd eich asesiadau ymarferol yn digwydd yn y salonau, a bydd darparu eich cleientiaid eich hun ar gyfer asesiadau yn eich helpu i’w cyflawni. Ymgymerir ag elfennau theori’r cymhwyster hwn gydag arholiadau a osodir yn allanol, yn seiliedig ar ofynion anatomeg a ffisioleg y maes astudio, a'r elfennau ymarferol hefyd. Hefyd, bydd gofyn ichi astudio cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn naill ai mewn Rhifedd / Llythrennedd / Llythrennedd Digidol neu TGAU, ochr yn ochr â Harddwch, sy’n ofyniad gorfodol.
4 TGAU gradd D neu uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith), neu gymwysterau cyfwerth ar lefel 1. Mae asesu sgiliau ymarferol yn rhan o broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Byddwch yn cael eich asesu ar eich sgiliau ymarferol yn ein salon go iawn ar gleientiaid allanol. Disgwylir ichi gyflawni'r 10 arholiad a osodir yn allanol. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth yn ystod eich astudiaethau. Hefyd, byddwch yn astudio cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru.
Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i: Therapi Harddwch Lefel 3, Technoleg Ewinedd Lefel 3. Argymhellir y rhain yn gryf i gyflawni'ch llawn botensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant, neu i geisio cyflogaeth yn y sector.
Mae yna asesiad sgiliau ymarferol fel rhan o’r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Mae gofyn i chi gael Gwisg Salon. cit cyfarpar a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn.
Trafodir yr amcan-gostau, manylion archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth / cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.







