Peirianneg Lefel 3: Peirianneg Awyrofod

Bydd gyrfa mewn peirianneg awyrofod yn golygu gweithio gyda thechnoleg o'r radd flaenaf a chwmnïau rhyngwladol. Gwneir gwaith ar y gwahanol gydrannau sy'n ffurfio'r awyrennau a'r systemau. Mewn rhai cwmnïau efallai y cewch eich galw'n beiriannydd awyrennol. Byddwch yn ymwneud â gwella diogelwch hedfan, effeithlonrwydd tanwydd, cyflymder a phwysau, ynghyd â lleihau costau system a defnyddio technolegau sy'n datblygu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid.


Mae'r cwrs hwn yn rhoi’r dysgu yng nghyd-destun y byd gwaith, gan roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu hymchwil, sgiliau a gwybodaeth mewn cyd-destunau gwaith perthnasol a realistig. Mae'r dull ymarferol, cymhwysol hwn yn golygu bod dysgwyr yn meithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dilyniant yn eu gyrfa neu astudiaeth bellach. Disgwylir i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'r cwrs galwedigaethol o'u dewis. Hefyd, gofynnir ichi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae cynnwys y cwrs yn adlewyrchu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen os ydych chi'n ystyried gyrfa yn y diwydiant awyrofod ac ymhlith y pynciau a astudir mae:


• Injans tyrbinau nwy • Cynnal a chadw awyrennau • Deunyddiau awyrennau • Theori hedfan • Egwyddorion mecanyddol • Iechyd a Diogelwch i Beirianwyr • Cyfathrebu i Beirianwyr • Mathemateg • Mathemateg Bellach • Deunyddiau a Chaledwedd • Arsylwi a Phrofi • Hydroligion • Gwthio • Prosiect peirianneg • Dylunio peirianneg • Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth awyrennau • Egwyddorion mecanyddol Disgwylir i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'r cwrs galwedigaethol o'u dewis. Hefyd, gofynnir ichi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfatebol


Asesiad

Asesir drwy brofion gwybodaeth ar-lein a phortffolio ar sail gweithdy, lle byddwch yn cofnodi manylion yr asesiadau gwaith a gynhaliwyd.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus mae yna sawl llwybr i symud ymlaen gan gynnwys addysg uwch drwy HNC neu Radd. Gallech fod yn symud ymlaen i Swydd mewn Diwydiant ar lefel technegydd, Prentisiaeth Fodern neu gyflogaeth mewn sefydliadau sifil neu filitaraidd.

Nodiadau Pellach

Os cynigir lle i chi ar y cwrs hwn, bydd angen i chi brynu eich Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eich hun sy'n addas ar gyfer y gweithgareddau ymarferol y byddwch yn eu gwneud.

Gallwch siarad am hyn yn fanylach yn ystod eich cyfweliad gydag aelod o staff.



Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Holwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:04F302YA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd