Mae'r cwrs yn caniatáu i ddysgwyr feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dilyniant gyrfa neu astudiaeth bellach.
Ar gyfer y Dyfarniad BTEC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch, bydd y dysgwr yn astudio: • Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg • Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg • Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg • Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianneg • Drafftio gyda Chymorth Cyfrifiadur mewn Peirianneg • Technoleg Robot Diwydiannol Byddai’r dysgwr hefyd yn astudio Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg sy'n gwneud defnydd llawn o'n gweithdai mecanyddol arloesol. Yn y Diploma byddwch yn astudio: • Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion diogelwch sefydliadol • Gweithio'n effeithlon ac effeithiol mewn peirianneg • Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol • Cynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio technegau gosod â llaw • Paratoi a defnyddio turnau ar gyfer gweithrediadau turnio • Paratoi a defnyddio peiriannau melino
5 TGAU ar radd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg (Gradd B neu’n uwch), Saesneg neu Cymraeg Iaith gyntaf) a Gwyddoniaeth, neu gymhwyster Lefel 2 gyda'r dewis a'r graddau priodol o unedau.
I ddysgwyr presennol Coleg y Cymoedd - Pas yn y Diploma L2 mewn Technolegau Peirianneg a gradd teilyngdod mewn Mathemateg Gymhwysol Uned 35. Gellir ystyried amgylchiadau unigol hefyd ar ôl cyfweliad.
Bydd eich gwybodaeth a'ch cymwyseddau ymarferol yn cael eu hasesu'n barhaus yn y cymwysterau BTEC a’r Diploma Lefel 2, a bydd hyn yn cynnwys asesiadau damcaniaethol ac ymarferol mewnol. Rhoddir gradd Llwyddiant/Teilyngdod/Rhagoriaeth i'r cymhwyster a'r unedau Dyfarniad BTEC, tra bo'r Diploma Lefel 2 yn cael ei raddio fel pasio neu fethu.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus mae dysgwyr blaenorol wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn llawer o ddisgyblaethau peirianneg. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiplomâu Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Mae llwybr clir i EngTech a dilyniant i statws Peirianneg Gorfforedig a Siartredig. Mae Diplomâu Lefel 3 yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.
Os cynigir lle i chi ar y cwrs hwn, bydd gofyn i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy'n addas ar gyfer y gwaith ymarferol a wneir.
Trafodwch hyn yn ystod cyfnod y cyfweliad gyda'r aelod o staff.
Gall cymorth ariannol fod ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.











