Byddwch yn dysgu'r canlynol:
• Peirianneg ac iechyd a diogelwch amgylcheddol • Effeithlonrwydd a gwelliant sefydliadol peirianneg • Egwyddorion trydan ac electroneg * • Electroneg ddigidol * • Cydosod a Phrofi Cylchedau Electronig * (* Gall rhai unedau dewisol newid)
Bydd angen 5 TGAU graddau A*- C a ddylai gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) , Gwyddoniaeth neu gymwysterau Lefel 2 mewn Electroneg. Cewch eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Ymhlith dulliau asesu'r cymhwyster hwn mae arholiad amlddewis ar y sgrin ar gyfer un uned orfodol ac un uned ddewisol ac asesiadau ymarferol a theori a gaiff eu marcio gan y Ganolfan ar gyfer unedau eraill y llwybr. Cynlluniwyd dulliau asesu i asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr ar gyfer pob uned. Mae'r arholiadau amlddewis ar y sgrin yn cael eu gosod a'u marcio gan y sefydliad dyfarnu. Mae'r asesiad mewnol yn cael ei osod gan y sefydliad dyfarnu a'i farcio gan aelodau o'r tîm addsygu yn y Ganolfan.
A chithau wedi datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau trydanol ac electronig, mae cyfleoedd am waith yn bodoli ym maes Offeryniaeth a Rheoli Electronig megis dosbarthu petrocemegol, nwy a dwr ynghyd â Chydosod Electronig ac Awtomatiaeth. Ar ôl cyflawni tystysgrifau NVQ a City & Guilds, cewch eich annog i chwilio am brentisiaethau o fewn y diwydiant perthnasol.