Sut i ddefnyddio caledwedd CAD a systemau gweithredu
Defnyddio ystod o orchmynion i greu a chyfyngu’r brasluniau
Sut i ddefnyddio ystod o orchmynion i greu nodweddion allwthiol a chylchdroadol
Defnyddio nodweddion a osodir i addasu modelau paramedrig
Sut i greu cydosodiadau
Sut i ddefnyddio amgylchedd y cynllun lluniadau i gynhyrchu copïau caled
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ac mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn chwilio am waith, neu’n cychwyn allan ym maes gweithgynhyrchu neu ddylunio peirianneg ac am ennill sgiliau modelu solet CAD.
Asesir y cwrs drwy'r canlynol:
Dau aseiniad yn y dosbarth yn delio â’r sgiliau ymarferol a ddatblygwyd drwy gydol y flwyddyn
Un prawf aml-ddewis ar-lein GOLA yn delio â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen.
Gall y cwrs eich helpu i ddod o hyd i waith mewn ystod o swyddi gan gynnwys:
Technegydd CAD
Rhaglennydd CAD/CAM
Gweithiwr peiriant CNC
Dylunydd Peirianneg
Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at astudiaeth bellach ar lefel uwch.